{"id":1555,"date":"2025-08-13T12:43:55","date_gmt":"2025-08-13T12:43:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/?page_id=1555"},"modified":"2026-02-03T13:03:04","modified_gmt":"2026-02-03T13:03:04","slug":"our-history","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/our-history\/","title":{"rendered":"Ein Hanes"},"content":{"rendered":"<div data-elementor-type=\"wp-page\" data-elementor-id=\"1555\" class=\"elementor elementor-1555\" data-elementor-post-type=\"page\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-01d3f01 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-id=\"01d3f01\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-2e70dcc e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"2e70dcc\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-a3e1731 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"a3e1731\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Ein Hanes<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-e2a7acd elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"e2a7acd\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h2 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Canfyddwch fwy amdanom ni <\/h2>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-57f9f39 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-id=\"57f9f39\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-d6456df e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"d6456df\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-9a53083 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"9a53083\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\tYsbrydoliaeth elusen Seren oedd Gwesty Seren, o fod wedi profi\u2019n uniongyrchol yr heriau o ganfod cyfleoedd gwyliau hygyrch i grwpiau bychan.  \t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-607112e e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-id=\"607112e\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-43b865e elementor-widget__width-inherit elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"43b865e\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">1600'au<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-eb79bc0 e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"eb79bc0\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-82fa5cb elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"82fa5cb\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Fel eiddo, mae Bryn Llewelyn wedi chwarae rhan bwysig yn yr ardal leol. Dengys cofnodion cynnar y gwnaed taliad i R\u00f4l Rhentu\u2019r Goron yn Ardudwy ym 1623 gan berchennog y pryd, Robert Wynn, oedd yn cyfateb i daliad blynyddol o 1s 2d mewn rhent. Cydnabuwyd bod hyn yn swm sylweddol o arian, yn sylweddol fwy nag yr oedd tiroedd fferm fawr yn ei dalu ar y pryd, sy\u2019n cyfleu bod ganddo diroedd helaeth. Mae cofnodion sy'n dyddio'n \u00f4l i 1688 yn dangos bod yr eiddo yn gysylltiedig \u00e2 John Wynn o Felai, Sir Ddinbych.<\/p><p>Roedd cysylltiad agos \u00e2 theulu Niwbwrch o Blas Glynllifon a oedd yn berchen ar lawer iawn o dir yr ardal a dylanwadodd hyn ar enwi sawl ffordd yn lleol.<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-28d800f elementor-widget__width-inherit elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"28d800f\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">1800'au<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-3289ef0 e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"3289ef0\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-46b925a elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"46b925a\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Gwyddom fod John Baines, masnachwr llechi, yn byw ym Mryn Llewelyn ym 1833 oherwydd iddo gysylltu \u00e2'r Arglwydd Niwbwrch yn gofyn am brydles ar gyfer y tai a'r tir.  Hefyd, bod John James Mason, Ysw o Cheltenham, oedd \u00e2 buddiant personol yn Chwarel Lechi Manod yn briod i Susannah Sophia, merch hynaf James Stokes Ysw o Fryn Llewelyn yn 1839.<\/p>\n<p>Mae\u2019n glir bod y perchnogion ym 1842 yn gysylltiedig  \u00e2 Chwmni Llechi Manod oherwydd y cynhaliwyd gwledd yn y t\u0177 i\u2019w gweithwyr oedd yn cynnwys \"gormodedd o bwdin eirin\" fel y\u2019i cynhwyswyd mewn erthygl papur newydd.  Ym 1844, adroddodd y papur lleol hefyd am  ddigwyddiad gwerth ei adrodd ... roedd gan berchennog y pryd, James Meyrick Ysw, feipen yn mesur 2 droedfedd, 6 modfedd o gylchedd yn tyfu yn ei ardd!<\/p>\n<p>Oddeutu 1851 ac am gwpl o flynyddoedd, cafodd y t\u0177 ei rhentu i deulu Spooner.  James Swinton Spooner oedd mab yr enwog James Spooner a fu\u2019n gyfrifol am oruchwylio adeiladu Rheilffordd Ffestiniog - llinell injan st\u00eam cul, 12 milltir o hyd  lawr allt - fel modd o gludo llechi o\u2019r mwyngloddiau\u2019n amgylchynu Blaenau Ffestiniog i\u2019r m\u00f4r ym Mhorth Madog (Porthmadog) gan ddefnyddio disgyrchiant. Yn y blynyddoedd diweddarach, gellid gweld yr injans st\u00eam yn glir yn mynd fyny a lawr drwy\u2019r dyffryn o flaen y t\u0177.<\/p>\n<p>Roedd James Swinton Spooner yn Beiriannydd ac yn Arlunydd, ond fe\u2019i hadnabuwyd fwyaf am y gwaith a gwblhaodd yn ddiweddarach wrth arolygu a goruchwylio adeiladu Rheilffordd Tal-y-llyn gyda\u2019i frawd Thomas ym 1865.<\/p><p>Daeth y t\u0177 i berchnogaeth Miss Charlotte Light, merch y diweddar Syr Henry Light erbyn oddeutu 1883.  Fe\u2019i hadnabuwyd fel dynes hynod garedig, yn enwedig tuag at dlodion a rhoddai o\u2019i hamser yn hael.  Bu iddi roddi casgliad o lyfrau gwerthfawr i\u2019r Llyfrgell Rydd ym 1894.<\/p>\n<p>O benderfynu ymadael, bu iddi werthu ei holl ddodrefn t\u0177 ac effeithiau ym 1901.<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-a87b3f1 elementor-widget__width-inherit elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"a87b3f1\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">1900'AU<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-3c237bb e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"3c237bb\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-ffe9581 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"ffe9581\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Daeth y t\u0177 yn eiddo i William Charles Wynn a\u2019i wraig oedd yn hanu o Kentucky  yn dilyn eu priodas ym 1900.<\/p><p>Ym 1903, arferai\u2019r Arglwydd Niwbwrch a\u2019i deulu wneud defnydd rheolaidd o Fryn Llywelyn fel t\u0177 gwyliau haf, gan gymryd r\u00f4l weithredol yn y gymuned, fynychu ffeiriau a chynnal digwyddiadau ayb. Daeth y cartref yn un o hoff lefydd mab yr Arglwydd Niwbwrch.<\/p><p>Lord Newborough\u2019s son &#8211; the 4th Baron Newborough \u2013 died at the age of 43 years in July, 1916 of pneumonia, having been in the Western Front trenches during the First World War and it was his lasting wish to be buried facing the views of the Maentwrog valley.\u00a0 It is said that he requested to be buried on Newborough Hill (Pen Ffridd T\u0177 Isaf run by A.S.Neill) in the field opposite Gwesty Seren, in a seated position so that he would permanently overlook the views of the Dwyryd River &#8211; his favourite vista.<\/p><p>Er bod eu prif breswylfa yn Llundain, roedd yr Arglwydd a\u2019r Arglwyddes Niwbwrch yn dal i ddefnyddio Bryn Llywelyn yn y 1920au, gydag erthyglau papur newydd yn adrodd eu bod wedi cyrraedd ym 1922, yn agor bas\u00e2r ym 1928 a hefyd yn chwilio am staff ychwanegol ym 1929.<\/p><p>Ers hynny, mae\u2019r t\u0177 wedi cael amrywiaeth o ddefnydd gwahanol.<\/p><p>Cafodd ei lesio i 2 Fynach - Brawd Douglas a Brawd Charles a daeth yn Gartref i St Ffransis ym 1932.  Roeddent yn caniat\u00e1u\u2019r cardotwyr lleol i gael bwyd, diod a lloches yn stablau\u2019r eiddo.   Cafodd yr adeilad ei ail-bwrpasu\u2019n ddiweddarach fel ysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Ysgol Summerhill a rhedwyd gan A.S.Neill - ysgol a redwyd yn ddyngarol iawn.  Mae\u2019r stori\u2019n mynd yr arferai\u2019r hogiau ifanc, oedd yn aros yn yr ysgol, dynnu amdanynt a nofio\u2019n noeth lymun ym mhwll yr ardd ffrynt. Felly byddai\u2019r plismon pentre\u2019n rhuthro i ben pellha\u2019r pentref i gadw\u2019r merched ifanc i ffwrdd fel na fyddent yn gweld neu\u2019n gwneud unrhyw beth amhriodol - ni ddengys cofnodion pa mor llwyddiannus oedd yr ymdrech honno!<\/p><p>Erbyn 1946, prynodd Cyngor Meirionnydd Bryn Llywelyn a\u2019i redeg yn wreiddiol fel Cartref Plant am nifer o flynyddoedd cyn ei droi\u2019n Gartref Gofal i Bobl Hyn yn y 60\u2019au.  Mae nifer yn dal i fyw yn y dalgylch oedd, fel plant, wedi treulio amser yn y Cartref Plant am naill reswm neu\u2019r llall a chlywir nifer fawr o straeon am yr amseroedd a\u2019r bywyd yn y cartref pan oeddent yn ifanc.  Yn wir, bu i un o Aelodau Bwrdd yr elusen yntau dreulio amser yma am sawl mlynedd yn blentyn gyda\u2019i frodyr a\u2019i chwiorydd.<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-892d358 elementor-widget__width-inherit elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"892d358\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t\t<h1 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">2000'au<\/h1>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-4141c6c e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"4141c6c\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-6954fd8 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"6954fd8\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Adleoliwyd y Cartref Gofal Henoed i adeilad newydd yn y pentref a chaewyd drysau\u2019r t\u0177 am y tro olaf yn 2010 hyd nes i elusen Seren Cyf ei brynu a\u2019i ail-wneud fel Gwesty Hygyrch.  Mae Bryn Llywelyn erbyn hyn wedi dod i ddiwedd ei daith ac wedi dychwelyd fel preswylfa sy\u2019n cynnig gwyliau i westeion! ...<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-6b3822c e-con-full e-flex e-con e-child\" data-id=\"6b3822c\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-d958424 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"d958424\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p><em>Ailgynhyrchwyd gyda chefnogaeth garedig y Gymdeithas Hanesyddol, gyda diolch arbennig i Steffan ab Owain am ei weledigaeth amhrisiadwy.<\/em><\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Our History Find out a bit more about us Gwesty Seren was the inspiration of Seren charity, having experienced first-hand the challenges of finding accessible holiday opportunities for small groups. 1600&#8217;s As a property, Bryn Llewelyn has always played an important role in the local area. Early records show a payment was made to the [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2579,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1555","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1555","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1555"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1555\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4017,"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1555\/revisions\/4017"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2579"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.gwestyseren.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1555"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}