top of page
Gwesty Seren Aerial 1.jpg

Mae Gwesty Seren
yn eich croesawu

Mae ein gwyliau hygyrch yn rhoi'r seibiant y mae ei angen ar bobl gyda anableddau a’u gofalwyr.  


Mae ein hystafelloedd wedi ei cynllunio ar gyfer anghenion ystod eang o anableddau, gyda staff arbenigol i'ch cefnogi.

info_serencyf.org (1).png

Beth sy'n unigryw amdanom ni?

Mae pawb angen gwyliau a dyna beth rydym ni'n ei gyflawni. Mae’r seibiant a gynigiwn yn gwbl unigryw, lle byddwch yn derbyn y lefel uchaf o ofal, heb golli’r holl hwyl! Eich gwyliau chi yw hi felly chi bydd yn dewis yr hyn rydych chi eisiau ei wneud - o fynd ar y llinell ‘zip’ i ddatblygu eich sgiliau allweddol gyda dosbarth meistrioli coginio gan ein tîm profiadol. 


Mae ein gwesty pwrpasol yn darparu lletygarwch yn cynnwys prydau, gweithgareddau, a diwrnodau allan llawn hwyl. Rydym yn teilwra ein gwasanaeth i bob gwestai a'u hanghenion gofal unigol.

_MG_5721-HDR.jpg

Pwy all aros yng Ngwesty Seren?

Rydym yn darparu cyfle am seibiant i unigolion anabl 18 oed neu hÅ·n. Gall gofalwyr ddod hefyd, ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny. Mae croeso iddynt ddod draw gyda’r unigolyn, neu ei adael i ni, a gallwn gymryd drosodd y gofal.
 

Mae ein staff yn brofiadol mewn cefnogi pobl ag amrywiaeth o anableddau ac anghenion. Mae ein hymagwedd yn cael ei arwain gan y person, gan weithio gyda chi o'r eiliad y byddwch chi'n archebu i sicrhau bod y cymorth a gewch wedi'i deilwra'n llwyr i chi.

bottom of page