Croeso i

Gwesty Seren

Gwesty Seren Hotel Snowdonia
Awards Gwesty Seren Reception
Accessible Hotel Snowdonia

Gwesty Hygyrch yn Eryri

Rhan o Elusen Seren sy’n cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a chorfforol a’u paratoi i fyw eu bywydau hyd yr eithaf yw Gwesty Seren. Mae’n unigryw yng Nghymru, gan mai hwn yw'r unig westy sy'n cael ei redeg gan staff cyflogedig ynghyd ac unigolion ag anableddau dysgu. Croesawn unrhyw westeion a chanolbwyntiwn ar ddarparu gwasanaethau cynhwysol gyda hygyrchedd mewn golwg.

Braf yw perchnogi adeilad safonol a hanesyddol, wedi ei adeiladu yng nghyfnod Sioraidd. Mae ei leoliad mewn ardal o harddwch naturiol ac fe amlygir hyn yn y golygfeydd panoramig bendigedig sydd i’w gweld o’r Gwesty. Gyda phob ystafell wedi ei addurno’n foethus, gallwn sicrhau y byddwch yn mwynhau eich seibiant. Bydd croeso cynnes yn eich aros a chewch fanteisio ar gyfoeth o adnoddau sydd gan yr ardal i gynnig ichi.

Profiad croesawgar heb ei hail a geir gan dîm staff Gwesty Seren, sy’n ymroddedig i sicrhau y bydd eich egwyl yn rhoi cyfle i ymlacio, mwynhau ac yn un fythgofiadwy.

Blynyddoedd o Wasanaeth
0
Ystafelloedd Gwely
0
Gwobrwyon
0
Ymwelwyr Hapus
0 +
Lleoliad

Lleoliad canolog Gwynedd

Mewn lleoliad perffaith ar gyrion pentref hanesyddol Llan Ffestiniog ger tref Blaenau Ffestiniog a Dyffryn Maentwrog. Fe’n hamgylchynir â golygfeydd syfrdanol Parc Eryri yng nghanol Gwynedd. Mae’r gwesty hefyd o fewn un o’r chwe ardal diwydiant llechi sy’n ffurfio safle treftadaeth byd UNESCO i gydnabod ei ddiwydiant llechi safon fyd-eang.

Mae’r gwesty’n sefyll ar ben rhiw Allt Goch yn edrych dros olygfeydd Argae Stwlan a chadwyn mynyddoedd Eryri o flaen y gwesty. I’r chwith eithaf, rhed Afon Dwyryd i’r Aber lle mae pentref Eidalaidd Portmeirion, a gwelir hefyd Warchodfa Bywyd Gwyllt Gweilch y Pysgod ar y chwith agosaf o flaen y Gwesty lle mae gerddi naturiol a lawntydd fel tonnau môr yn rhedeg ar hyd blaen y gwesty.

Mae’r lleoliad yn ddelfrydol i westeion sy’n mwynhau anturiaethau awyr agored mewn tirlun naturiol ffantastig, boed y rheiny yn weithgareddau adrenalin uchel neu’n weithgareddau mwy hamddenol, er mwyn edmygu’r golygfeydd godidog.

what3words: pursue.ultra.privately

Cyfleusterau

Yng Ngwesty Seren, cynigiwn ystod o gyfleusterau i sicrhau bod eich arhosiad mor gyfforddus a phleserus â phosib. Ceir defnydd Wi-Fi am ddim, parcio hygyrch gyda gofodau penodol i'r anabl. Mae storfa beics diogel yn adnodd ychwanegol i feicwyr. Ymlaciwch yn ein bar; ewch am grwydr i weld prydferthwch Gerddi ‘Stiniog Seren, neu manteisiwch ar ein hystafell gyfarfod a’n gofodau cymdeithasol. I’ch diddanu, mae gennym fwrdd pŵl, tra bod ein siop ar y safle’n lle delfrydol i godi cynnyrch ac anrhegion unigryw a wneir yn lleol. Boed yma ar fusnes neu bleser, mae ein cyfleusterau wedi eu cynllunio i sicrhau bod eich arhosiad yn un ymlaciol a bythgofiadwy.
Storfa Beics
Wi-Fi am ddim
Ystafell Synhwyraidd
Hygyrch
Lluniaeth
Gerddi 'Stiniog
Ystafell Gyfarfod
Bar
Hotel Food and Drink

Bwyd a Diod

Fel rhan o’n hymgyrch cynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn canfod cynnyrch o’r ansawdd gorau o ffynonellau mor lleol â phosib.

Bike Store Gwesty Seren

Storfa Beics

Lleolir Blaenau Ffestiniog yng nghanol Gwynedd, wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, traciau oddi ar y ffordd, gan gynnwys llwybrau coedwigoedd a golygfeydd godidog.

Sensory Room

Ystafell Synhwyraidd

Ceir gofod tawel at bob oedran yn ein hystafell synhwyraidd unigryw sydd ar flaen y gad.

Meeting Room in Eryri

Ystafell Gyfarfod

Mae gennym ystafell gyfarfod bwrpasol sy'n eistedd rhwng 10-12. Gellir ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, cynadleddau bach neu sesiynau hyfforddiant.

Gerddi ‘Stiniog Gardens

Gerddi ‘Stiniog

Beth am grwydro i fyny at Erddi ‘Stiniog ar nosweithiau braf – mae’n werth gwneud y trip i fyny allt serth a bachu sedd dan y pergola i fwynhau’r golygfeydd ar safiad uwch.

Llogi Grŵp/At ddefnydd ecsgliwsif

Croesawn grwpiau o ymwelwyr hyd at capasiti llawn ac ecsgliwsif y gwesty. Gallwn gynnig gwasanaeth unigryw, (o fod wedi trafod dymuniadau grwpiau penodol), gan gynnwys trefnu digwyddiadau wedi eu teilwra, drwy fanteisio ar ein gwybodaeth leol a’r cyfleusterau sydd eu hangen.

Argymhellir llogi buan i sicrhau defnydd ecsgliwsif o’r gwesty.

Beth ddywed ein gwesteion

4.6
allan o 5

Ein Gwobrau