Y Gwesty
Gofodau croesawus i bawb
Lolfar
Gyda’i nenfwd uchel, awyrgylch golau a digon o le, mae’r ystafell hon yn agored a ffres yn ystod y dydd ond mae’n dod yn fyw min nos pan fo’r goleuadau’n isel a’r lampau ymlaen. Wedyn, crëir awyrgylch atmosfferig tywyll sy’n dwyn atgof o awyrgylch clybiau ‘ysmygu’ cyfforddus ond cyfoes. Ardal sydd ymhlith ffefrynnau ein gwesteion.
Mae ardal blaen y lolfar wedi ei chynllunio i fod yn gyfforddus. Gofod lle gall gwesteion ymlacio a mwynhau sgyrsiau gyda’u diodydd mewn seddi lledr cyfforddus gyda byrddau coffi ger wal o ffenestri sy’n fframio'r golygfeydd. Mae’r ardal ganolog yn cynnig gofod bwyta ac yfed gyda nifer o fyrddau, ac mae gennym ychydig o stolion bar uchel o amgylch y bar fel seddi ychwanegol.
Mae hen luniau sy’n dathlu treftadaeth gyfoethog mwyngloddio’r ardal yn addurno’r waliau. Rhain sy’n amlygu’r cyswllt clir rhwng mwyngloddio, y Plasty a’r ardal ac sy’n arddangos safle Treftadaeth y Byd (UNESCO) i’r dim.
Tra bod ein bar ar agor yn bennaf i’n gwesteion, estynnwn groeso cynnes i drigolion yr ardal hefyd. Mae nifer o’n dewisiadau diod yn dod o Gymru, gan gynnwys sawl dewis o gwrw a fragwyd yn lleol. Ar gael hefyd mae nifer o ddewisiadau diod di-alcohol.
Yn ystod cyfnodau prysur, bydd y bar ar agor hyd at 22:00, er gall amseroedd cau amrywio yn ystod cyfnodau tawel.
Gallwn weini bwyd a diodydd yn y bwyty, lolfar neu ar y patio allan.
Why not sit outdoors and enjoy the natural environment. Look out and listen …… the perfect way to enjoy a cool drink on a warm evening. We are a non smoking hotel and have a designated smoking area.
Ystafell Frecwast
Eto yn fframio golygfeydd godidog drwy’r wal o ffenestri, addurnwyd yr ystafell gyda lliw olewydden wyrdd ysgafn i fanteisio ar y dirwedd naturiol - ffordd ffantastig o ddechrau’r diwrnod.
Cynigiwn amrediad o fyrddau gwahanol faint yn yr ystafell fwyta ar gyfer teuluoedd, grwpiau bach a chyplau. Yn arferol, gweiniwn frecwast rhwng 07:30 a 09:30 gydag amrywiaeth hael o ddewisiadau ar gael.
Croesewir gwesteion i ddewis o‘n brecwast cyfandirol neu mae dewis o frecwast llawn “Y Chwarelwr” yn arbennig o boblogaidd gyda’i gynhwysion lleol.
Lolfa Bŵl
Gyda chyfuniad o nodweddion a dodrefn cyfoes, mae ardal ymlacio’r lolfa wedi ei leoli o fewn gofod bach y ffenestri bwa lle gellir mwynhau’r golygfeydd gorau. Ceir yno lyfrgell fach at ddefnydd gwesteion a gall darllenwyr wneud eu hunain yn gyfforddus ar y seddi ffenestr dwfn sy’n edrych dros ardal tir parc yr ardd.
Fel arall, gall gwesteion fwynhau gêm o bŵl, a lleolir man bach eistedd gyda byrddau yng nghefn yr ystafell ble gall gwesteion wylio teledu sgrin fflat sydd hefyd yn chwarae carioci.
Derbynfa
Awyrgylch eang ac agored sydd i’r lleoliad yma sydd ohono’i hun yn le bendigedig i eistedd ar y soffas lledr am sgwrs. Mae waliau dramatig glas tywyll yn ategu i’r lloriau llechen naturiol - y brif fynedfa sydd drwy ddrysau awtomatig gwydr gydag ardal wybodaeth am atynfeydd twristaidd y gallwch wneud yn ystod eich arhosiad.
Mae’r dderbynfa, y bwyty a’r prif goridor i gyd yn arddangos gwaith arlunio gwreiddiol gan artist lleol a ysbrydolwyd gan y tirlun naturiol. Mae’r holl artistwaith ar werth.
Wrth gefn y dderbynfa, mae gennym siop fach sy’n gwerthu cynnyrch o ansawdd uchel a wnaed gan ein hunigolion ac eitemau eraill sy’n gysylltiedig â’r ardal.
Mewn sefyllfa o argyfwng, gellir cysylltu gyda’r aelod tîm “cysgu fewn” drwy ffonio 300 o’r ystafell wely ar unrhyw adeg.
Fe gloir y drysau ffrynt am 22:00 awr. Ar ôl hyn, ceir mynediad drwy fysellbad y tu allan i’r brif fynedfa, gan ddefnyddio cod bysellbad a ddogfennir ar waled y cerdyn allwedd. Felly, plîs ewch â’r cerdyn allwedd gyda chi ar bob achlysur yr ydych yn gadael y Gwesty, gan gynnwys os ydych chi'n ysmygu y tu allan, gan fod Gwesty Seren yn sefydliad dim ysmygu.
Gerddi a Gofod Allan
Yn gyfredol, mae lifft allanol sy’n tywys gwestai o’r maes parcio ffrynt i’r brif fynedfa fel opsiwn ychwanegol i’r grisiau ddwy ochrog. O flaen y gwesty mae sawl pot gyda choed Monterey Cypress persawr lemon sydd o gymorth i gadw gwybed bach hyd fraich yn ystod misoedd yr haf, ynghyd ag ardaloedd eistedd cyfforddus sy’n cynnwys ymbarél parasol ar y patio - dewis poblogaidd i westeion ar noson gynnes, heulog.
Mae côr yr adar yn anhygoel, felly eisteddwch yn dawel i weld os allwch adnabod y gwahanol ganeuon adar, yn enwedig ben boreau a min nos.
Mae gardd flaen y gwesty ar lethr naturiol a’r gerddi a thirwedd amgylchynol oddeutu 3½ acer yn tyfu’n naturiol i annog bywyd gwyllt.
Gyda lleoliad y gwesty ger brig yr allt, manteisiwn ar wneud y gorau o olygfeydd y dyffryn cyfagos, yr argae a’r mynyddoedd o’i flaen ac i’r ddwy ochr. Gwyrddni naturiol sydd i’w weld yng nghefn y Gwesty.