Storfa Beics
Storfa beics mewnol diogel
Lleolir Blaenau Ffestiniog yng nghanol Gwynedd, wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, traciau oddi ar y ffordd, gan gynnwys llwybrau coedwigoedd a golygfeydd godidog.
Lleolir Gwesty Seren bron ar frig Allt Goch, allt sydd ar raddiant cyfartalog o 5.7% gyda’r chwarter milltir fwyaf serth ar raddiant o 10.8%, a graddiant y filltir barhaus fwyaf serth yn 8%. Mae’r allt yma wedi bod yn ychwanegiad poblogaidd ar “Tour de Britain” a ffyrdd beicio cyffelyb oherwydd heriau cynhenid y ffordd serth hon.
Ar wahân i fod yn boblogaidd ymysg beicwyr lôn, mae’r ardal fynyddig yn gweddu i feicwyr Traws Gwlad gan gynnig amrywiaeth o heriau hyd at y lefel “du” os ydych ffansi sialens!
Yn gyrchfan perffaith i feicwyr, rydym wedi buddsoddi mewn storfa beics diogel o fewn y Gwesty er tawelwch meddwl ein gwesteion. Gallwn storio hyd at 12 beic lôn neu 10 feic mynydd ynghyd â gofod storio helmedau ac offer sylfaenol.
I’r sawl sy’n defnyddio beiciau trydan, mae gennym ddigon o socedi fel y gallwch wefru eich gorsaf docio gwefru e-feiciau yn y storfa. Ceir hefyd pibell ddŵr allanol a sinc tu mewn i’r storfa beics i gael trefn yn dilyn y diwrnodiau mwdlyd a geir o bryd i’w gilydd.
Croesewir beicwyr i fanteisio ar yr orsaf cynnal a chadw sydd o flaen y gwesty sy’n cynnwys tŵls elfennol a gofod i gynnal a chadw beiciau.
... a phe baech yn cael eich dal yn y glaw yn ystod y dydd, ceir ystafell ddynodedig i sychu dillad o fewn y storfa ddiogel sydd jyst y peth i sychu bob dim dros nos.