Bwyd a Diod

Cynnyrch o’r ardal leol

Fel rhan o’n hymgyrch cynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn canfod cynnyrch o’r ansawdd gorau o ffynonellau mor lleol â phosib.

Bisgedi a chacennau cartref

Pwy sydd ddim yn mwynhau bisgedi a chacennau cartref? Mae ein hunigolion yn paratoi danteithion ysgafn, ffres melys pob dydd i groesawu gwesteion i’w hystafelloedd.

Cinio ar wib a phicnics

Beth am flasu ein dewis o ginio ar wib? Gallwch archebu a thrafod unrhyw anghenion dietegol ymlaen llaw, sy’n rhoi’r rhyddid i chi fwynhau eich diwrnod allan – gwasanaeth poblogaidd iawn i gerddwyr, mynyddwyr a beicwyr o blith ein gwesteion.

Yn lleol

Cynnyrch o’r Ardal Leol

Fel rhan o’n hymgyrch cynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn canfod cynnyrch o’r ansawdd gorau o ffynonellau mor lleol â phosib.

Rydym wedi datblygu perthnasau gyda nifer o gyflenwyr lleol arbennig sydd wedi ymrwymo i werthu cynnyrch safonol, ac rydym wedi gweithio’n galed i adnabod cymaint o gyflenwyr lleol ag sy’n bosib er mwyn lleihau ein ‘milltiroedd bwyd’. Mae rhai o gynhwysion craidd ein cynnyrch, gan gynnwys cynnyrch ein brecwast Chwarelwr poblgaidd wedi eu mapio islaw:-

Mae Gerddi ‘Stiniog hefyd yn rhan o’r elusen ac yn tyfu amrywiaeth o gynnyrch yr ydym yn eu defnyddio cymaint ag sy’n bosib, gan gynnwys ffrwythau, llysiau, perlysiau ac ati. Rydym wedi plannu ystod o goed ffrwythau cynhenid ac yn edrych ymlaen at ddechrau eu defnyddio ymhen amser. Fel rhan o’n nod i ddefnyddio cynnyrch mor lleol â phosib, mae ffa coffi’r barista wedi’u rhostio’n lleol ac mae’r te, coffi a siwgr sydd wedi eu pecynnu’n ecogyfeillgar yn cael eu prynu gan gwmni o Ben Llŷn. Gwnawn gymaint o gynnyrch cartref ag sy’n bosib, gan gynnwys jams, siytni, picls, saws, bisgedi a chacennau, gyda rhai ohonynt sydd ar gael i’w prynu yn ein siop.
Adborth Cwsmeriaid

Gwasanaeth Arlwyo Allanol

Darperir ein gwasanaeth arlwyo allanol law yn llaw gyda staff y gwesty a’n hunigolion profiadol sydd wrth eu boddau’n cynorthwyo i ddarparu a danfon archebion.

Gallwn hefyd hurio llestri a chyllyll/ffyrc ayb fel rhan o’r gwasanaeth yma pe dymunir.

Ceir dewis o blith sawl bwydlen barod, neu gallwn drafod pecynnau unigryw, sy’n cynnwys anghenion dietegol arbennig.

Cofiwch gysylltu â Rheolwr y Gwesty i drafod eich anghenion mewn rhagor o fanylder.

Darperir y gwasanaeth hwn ar gyfer ddigwyddiadau corfforaethol ac i bartïon llai neu ddathliadau. Beth am dreulio’ch amser yn diddanu a chymdeithasu heb boen meddwl ar achlysuron arbennig a dathliadau bythgofiadwy.

Te Cynhebrwng

Amgylchynir y Gwesty gan dir preifat naturiol, lloches heddychlon i gynnal te cynhebrwng yn dilyn colled a chyfle i gofio am fywyd un annwyl gyda'ch teulu a ffrindiau.

Yn yr haf, mae’r gofod allan yn lleoliad poblogaidd i ymgynnull. Fodd bynnag gellir gwneud defnydd llawn agored neu ddefnydd preifat o ystafelloedd cyhoeddus y Gwesty yn ddibynnol ar faint y cynulliad.

Gellir trafod anghenion bwyd arbenigol neu ddewis o’n bwydlen wedi cynllunio’n arbennig i’r digwyddiad.