Cynaladwyedd
Wedi ymrwymo i weithio’n gynaliadwy
Fel elusen, mae Grŵp Seren wedi ymrwymo i weithio’n gynaliadwy ac yn gofalu ein bod yn gostwng, ail-ddefnyddio ac ailgylchu ysbwriel. Ein bwriad yw bod yn Sero Net erbyn 2030 ac rydym yn gweithio’n barhaus i lwyddo, er gwaethaf yr heriau a wynebwn i wneud hyn.
Felly, rydym wedi datblygu polisi strategol ac yn cynllunio sut y gobeithiwn lwyddo i wneud hyn drwy nodau tymor byr, canolig a hirdymor.
Adnabyddwn mai ein cyfrifoldeb ni yw gwarchod y dynodiad o fod wedi ein lleoli mewn ardal o harddwch eithriadol naturiol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhan i gadw at hyn ac i leihau ein heffaith amgylcheddol cymaint ag sy’n bosib. Wrth warchod cefn gwlad i genedlaethau’r dyfodol, mae Gwesty Seren wedi partneriaethu gyda Parc Eryri a’u hymgyrch “Yr Wyddfa Di-Blastig”, o fod wedi ein lleoli o fewn ei ffiniau. Rydym eisoes wedi llwyddo i ennill y Safon Arian. Gyda’ch cydweithrediad chi, rydym yn gweithio tuag at gynyddu hyn i’r Safon Aur - bydd hyn yn cadarnhau ein bod yn 94% ddi-blastig o fewn y sefydliad.
Nid ydym mwyach yn defnyddio:-
- Cynnyrch plastig defnydd sengl sy’n cynnwys pacedi saws ayb
- Bocsys grawnfwyd pryd sengl
- Pacedi bach menyn defnydd sengl
- Cynnyrch a brynwyd mewn bylc
- Bisgedi mewn pecynnau plastig i’r ystafelloedd gwely
- Biniau cyffredinol i’r holl wastraff
- Archebu siop un stop am bopeth
Rydym bellach yn defnyddio:
- Cynnyrch wedi’u gweini mewn cynwysyddion y gellid eu hailddefnyddio
- Detholiad o rawnfwydydd brecwast wedi ei rannu ymlaen llaw
- Menyn wedi cyrlio a’u gweini mewn powlenni
- Cynnyrch wedi eu canfod yn lleol i ostwng y milltiroedd awyr, ac i gefnogi’r economi lleol
- Bisgedi/cacennau cartref yn yr ystafelloedd gwely
- Biniau ailgylchu wedi’u gwahanu
- Ystyriaeth i brynu cynnyrch o ffynonellau lleol gyda chynaliadwyedd mewn golwg
Mae Gwynedd ymhlith yr uchaf o Gynghorau Cymru yn nhermau targedau ailgylchu ac fe anogir gwesteion i ddefnyddio’r biniau wedi’u gwahanu a leolir y tu mewn ar goridorau’r llawr gyntaf ac ar tu allan wrth ochr y gwesty, tua’r cefn ar ben draw uchaf y dreif.
Mae deunydd wedi’i ailgylchu ar wahân yn cynnwys papur a chardfwrdd, plastig a metel, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol. Mae hyn yn sicrhau bod y gwastraff i ddirlenwad yn gostwng cymaint â phosib.
Rydym hefyd yn compostio cymaint o gynnyrch gwastraff bwyd priodol megis plicion gegin a gwastraff cegin o ddeunydd organig fel y gallwn ei ailddefnyddio yng Ngerddi ‘Stiniog. Rydym yn edrych i fuddsoddi mewn cyfarpar compostio pryfaid genwair.
Yn ychwanegol, rydym yn cynllunio i gyflwyno bytiau dŵr i ddyfrhau planhigion sy’n amgylchynu’r gwesty a’r gerddi. Byddwn yn mesur y gweithgareddau hyn pan mewn lle.
Mae’r elusen yn fewnol, wedi ymrwymo i fynd yn ddi-bapur ac mae ein siwrne’n parhau i wneud y defnydd gorau posib o dechnoleg.
Fel rhan o’n hymrwymiad tuag at gynaladwyedd ac i fod yn ddi-blastig, rydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr i sicrhau ein bod yn partneriaethu gyda rhai sydd ag ethos a gwerthoedd cyffelyb i ni’n hunain.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dechrau gosod goleuadau egni isel, rhai ohonynt y gellid troi lawr a hefyd sensors, fel bod y goleuadau/ffaniau yn diffodd yn awtomatig pan nad yw’r ystafell mewn defnydd. Mae hyn yn gwella defnydd egni ac yn ymestyn oes ein ffynonellau golau. Fel arall, fe ddiffoddir ein holl offer trydanol yn y wal pan nad yw mewn defnydd a gofynnwn yn garedig i westeion wneud yr un peth.
Fe gyfnewidir tyweli dim ond ar gais gwesteion drwy eu gadael yn y bath/cawod i arbed dŵr a defnydd egni.
Cynnyrch glanhau ecogyfeillgar a ddefnyddiwn drwy’r Gwesty. Yn yr ystafelloedd gwely, defnyddiwn gynnyrch ymolchi y gellir eu hail lenwi at ddefnydd gwesteion i leihau’r gwastraff poteli plastig.
Y tu allan, rydym wedi cychwyn ar raglen gynhwysfawr i ddifa rhywogaethau goresgynnol cymaint â phosib - hyn sy’n cynnwys gwaredu Clymod Japaneaidd a Rhododendronau.
Fel gwesteion, fe ofynnwn yn garedig am eich cymorth gyda hyn drwy sicrhau eich bod yn:-
- Gostwng, Ailddefnyddio, Ailgylchu – Defnyddio’r biniau ailgylchu a leolir yn yr ardaloedd cyhoeddus neu y tu allan
- Diffodd holl gyfarpar yn y wal pan na fo mewn defnydd
- Troi rheolyddion thermostat y rheiddiadur i lawr yn lle agor ffenestri os yw’r ystafell yn rhy boeth.
- Bod yn “Ddoeth â Dŵr” ac osgoi defnydd gwastraffus dŵr e.e. peidio gadael tap dŵr yn rhedeg yn ddiangen i oeri’r dŵr neu wrth lanhau dannedd.
- Ceisiwch gefnogi ein cymuned leol drwy ddefnyddio cyflenwyr a chynnyrch lleol sydd hefyd yn gostwng allyriadau carbon
- Ystyriwch gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char - mae gennym fanylion cyfleusterau hurio beics a llwybrau beics/cerdded. Gofynnwch yn y dderbynfa os oes gennych ddiddordeb i ganfod rhagor o wybodaeth.
- Parchwch god cefn gwlad drwy aros ar y llwybrau, peidio cerdded ar dir preifat ffermio, cau pob giât ar eich hôl, cadw holl gŵn ar dennyn o amgylch anifeiliaid fferm a pheidio daflu ysbwriel ar lawr.
- Cymryd ran yn yr ymgyrch Wyddfa Di-blastig drwy beidio defnyddio plastig defnydd sengl ble’n bosib.
Cynlluniau’r dyfodol
Mae ein rhaglen cynnal a chadw ragweithiol gylchol yn parhau, sy’n cynnwys buddsoddiad pellach i sicrhau y bydd 100% o’n goleuadau yn rhai egni isel LED.
Bydd gwaredu Clymod Japaneaidd a Rhododendronau yn parhau fel rhan o raglen dros gyfnod o 5-mlynedd.
Rydym yn gweithio tuag at osod goleuadau ynni isel newydd y tu allan sy’n lleihau llygredd golau ar gyfer mannau arsylwi Awyr Dywyll ac i annog cadwraeth bywyd gwyllt, wrth gynnal gofynion iechyd a diogelwch.
Fodd bynnag, mae heriau cynhenid gyda’n hymrwymiad, yr un mwyaf yw’r costau i lagio ac ail-wneud holl do’r Gwesty, diweddaru’r system wresogi a gosod paneli solar. Rydym hefyd yn gweithio o fewn yr heriau sy’n perthyn i adeilad hanesyddol.