Gwobrwyon

Dathlu ein llwyddiannau

Ymfalchïwn o gael ein hadnabod am ein hymrwymiad tuag at ragoriaeth. Mae ein gwobrwyon yn amlygu’r holl waith caled, yr angerdd, a’r ymroddiad sy’n sicrhau bod pob gwestai’n cael profiad arbennig.
Gwobrwyon

Gwobr Prestige 2024-25 a 2025-2026Cefnogaeth Anabledd Cyfundrefn Di-Elw’r Flwyddyn

Lansiwyd gwobrwyon Prestige i ddathlu busnesau ac unigolion sy’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau ardderchog yn gyson. Seilir penderfyniadau’r panel o feirniaid ar feysydd megis rhagoriaeth gwasanaeth, ansawdd y cynnyrch/gwasanaeth a gynigir, ymarferiadau arloesol, gwerth, dulliau o weithio cynaliadwy a moesegol yn ogystal â chysondeb mewn perfformiad. Dewisir yr enillwyr ar sail y rhai sy’n gallu arddangos orau eu cryfderau yn y meysydd hyn.

“Braint oedd cael ein hadnabod am y wobr yma yn 24/25 ac rydym yn ARBENNIG o falch o’i dderbyn eto eleni am yr eildro”. Ein nod yw sicrhau bod ein hunigolion yn byw eu bywyd gorau posib ac i’w cefnogi nhw i lwyddo gyda’r nod yma. Eleni, aeth 2 o’n hunigolion gyda ni i gasglu’r wobr. Dywedent eu bod wedi cael ‘yr amser gorau’ ac iddynt fwynhau’r holl brofiad yn fawr ... er eu bod yn awyddus iawn i gyrraedd adref mewn digon o amser i’w gêm o snwcer!

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd (Byw’n Iach)Darparwr Cynhwysol y Flwyddyn 2024 (2il)

Wedi eu trefnu gan Byw’n Iach, mae’r digwyddiad yma’n amlygu llwyddiannau unigolion a thimau arbennig ar draws amrediad o chwaraeon, yn dathlu eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u talent. Nid oedd eleni’n wahanol, a chyflwynwyd gwobrwyon i grŵp o athletwyr anhygoel, hyfforddwyr a chyfranwyr sydd wedi cael effaith ac wedi dylanwadu ar hinsawdd chwaraeon yng Ngwynedd yn yr hirdymor.

Dywedodd aelod o’r tîm “Rydym yn ymarfer yn ofnadwy o galed ac yn wir mwynhau chwarae pêl droed gyda’r Hyfforddwr ar ddydd Llun. Dwi’n hoff ofnadwy o’n cit hefyd – ni ddyluniodd o ein hunain – mae’n cŵl tydi! Rydym wedi dechrau chwarae mewn cystadlaethau rŵan hefyd a dwi’n meddwl y gwnawn ni ennill y tro nesaf!”

Cyflogwr y Flwyddyn – Dysgu yn y Gweithle 2024 Grŵp Llandrillo Menai

Mae Consortiwm Dysgu yn y Gweithle Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal Gwobrwyon blynyddol i adnabod prentisiaid talentog a’u cyfraniad eithriadol yn y gweithle a thu hwnt.

Dywed y Tîm yn GLLM “Drwy ei arweinyddiaeth a diwylliant, nid yn unig y mae Seren Cyf yn rhagori fel busnes sy’n darparu cyfleoedd i unigolion gydag anableddau dysgu ond mae hefyd yn gyflogwr ardderchog sy’n cefnogi aelodau tîm i ddatblygu a thyfu drwy gwblhau prentisiaethau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â lefel 3 ac uwchlaw.”

“Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i ymateb i iaith ddewisol ein hunigolion, y rhan helaethaf ohonynt sy’n Gymraeg iaith gyntaf. Mae hyn hefyd yn wir am y rhan helaethaf o’n staff, gyda dros 95% yn rhugl yn y ddwy iaith. Fel elusen fach wedi ei sefydlu mewn ardal o fwyngloddio llechi traddodiadol, credwn ei fod yn holl bwysig i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth. Roeddem yn hynod o falch o fod wedi derbyn y wobr yma i gydnabod ein buddsoddiad parhaus yn yr ardal”

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Noddwyd Gwobrwyon Rheolaeth Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (gwobrwyon CLAS) 2025 gan Lywodraeth Cymru. Dechreuwyd y gwobrwyon yn 2019 a chânt eu rhedeg gan FAGC i gydnabod rheolaeth cymunedau o ofodau gwyrdd.

Green spaces include a range of vegetated land such as parks, community gardens, orchards, woodlands and hedges, informal green spaces, allotments and food growing sites, plus areas of water, including rivers, canals, lakes, ponds.  Community managed spaces like these are valuable for both people and nature. They are also run by volunteers who give up their spare time for their local environment and community. The Welsh Government funded Social Farms & Gardens Community Management Award is a stepping stone to achieving a Green Flag Community Award run by Keep Wales Tidy.

I ennill y wobr, rhaid i grwpiau ddangos eu bod wedi’u hyswirio ar gyfer y gweithgareddau, wedi cael caniatâd perchennog y tir at ddefnydd y safle, eu bod yn cynnwys y gymuned fel rhan o’r broses penderfyniadau ac yn gweithio gyda phartneriaid megis yr awdurdod lleol.

“Mae’r wobr hon yn binacl 4 mlynedd o waith caled gan staff, unigolion a gwirfoddolwyr sydd i gyd wedi cynorthwyo i wyrdroi beth oedd yn dirwedd wedi gordyfu yn dilyn Covid i hafan bywyd gwyllt croesawgar ac ystyriol gyda golygfeydd yn edrych dros fynyddoedd Eryri a gwarchodfa adar Gweilch y Pysgod.

Ac mae gennym ragor o syniadau i’w ddatblygu, felly cadwch lygaid ar ein Gerddi!

Gwobr Twristiaeth - Go North Wales (rownd derfynol) Gwobr Twristiaeth Hygyrchedd a Chynhwysol.

Mae Gwobr Twristiaeth Go North Wales yn dathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion rhyfeddol sydd yn helpu i wneud Gogledd Cymru yn gyrchfan flaenllaw i ymwelwyr. O arloesedd i wasanaeth cwsmeriaid eithriadol, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at y gorau ar draws y rhanbarth.

“Rydym yn rhan o’r ffordd drwy gynllun buddsoddi 4 blynedd i ddatblygu Gwesty Seren; roeddem yn falch iawn o gael ein cydnabod fel un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ymhlith grŵp cystadleuol cryf iawn. Mae ein cynlluniau datblygu yn parhau er mwyn sicrhau bod pob gwestai yn cael seibiant bythgofiadwy mewn amgylchedd cyfforddus. Mae ein gwasanaeth, a redir ar y cyd ag oedolion ag anableddau dysgu, yn cynnig profiad gwyliau unigryw i bawb, gan gynnwys gofynion gwesteion hygyrch a chynhwysol.”

Cydnabyddiaeth

Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg
Ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i annog siarad Cymraeg yn y gweithle. Rydym yn hapus i gynnig gwasanaeth yn unai’r Saesneg neu’r Gymraeg .. os ydych angen help i ynganu neu eglurhad beth yw ystyr gair, croesawn gwestiynau.

Yr Wyddfa di-blastig

Yr Wyddfa Plastic Free Logo
O fod eisoes wedi cyrraedd y safon arian, pam stopio’n y fan honno! Anelwn am aur ac eisoes rydym yn symud tuag at y nod, gyda chynlluniau eraill mewn llaw. Gwiriwch ein tudalen cynaliadwyedd am ragor o wybodaeth.

Visit Wales – Graddfa 3 Seren

Strwythur graddio cyffredinol sy’n asesu safonau er budd gwesteion. Mae ein gwesty gwledig yn rhedeg ar fodel busnes unigryw mewn cydweithrediad â staff ac oedolion gydag anabledd dysgu. Rydym yn falch o gynnig safon gyson ar draws y gwasanaeth, sy’n cynnwys pecynnau cefnogaeth gofal unigryw sydd ar gael i wyliau hygyrch. Mae pob profiad gwyliau yn cael ei reoli yn gyson i safon 3*, gyda gwasanaethau o werth ychwanegol sydd hefyd ar gael yn rhad ac am ddim i westeion.
Cymru Wales 3 Start Hotel in Eryri