Ystafell Gyfarfod

Ystafell gyfarfod a chynadleddau

Mae gennym ystafell gyfarfod bwrpasol sy'n eistedd rhwng 10-12. Gellir ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, cynadleddau bach neu sesiynau hyfforddiant.

Mae’r ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi yn gyhoeddus. Gall trefnwyr wneud defnydd o’r teledu i gyflwyno drwy liniaduron neu i groesawu cynadleddwyr rhithiol.

Gallwn gynnig diodydd, gan gynnwys te/coffi a dŵr unai i chi helpu’ch hunain yn ôl yr angen neu drwy ein gwasanaeth gweini. Ceir dewisiadau diodydd di-alcohol a byrbrydau yn y Lolfar sydd hefyd wedi ei drwyddedu i weini diodydd alcoholig.

Drwy drefniant blaenorol, gallwn gynnig byr brydau ysgafn megis dewisiadau o fisgedi/cacennau cartref hyd at fwydlen bwffe llawn a gallwn arlwyo i amrediad o anghenion dietegol.

Gellir trefnu gofod yn y bwyty ac yn y Lolfar ar gyfer grwpiau trafod bach fel rhan o’r gwasanaeth, pe dymunir.

Cynigiwn gyfarpar cynadleddau ar y safle sy’n cynnwys:-

  • Sgrin monitor cysylltiadwy
  • Offer ysgrifennu a phapur
  • Wi-Fi am ddim drwy gydol y gwesty
  • Cyfleusterau cyfarfodydd ar-lein
  • Ffrâm a Siart fflip/Bwrdd Gwyn

Cysylltwch â ni am gostau llogi’r ystafell gyfarfod a gallwn deilwra pecynnau i gwrdd â’ch gofynion – ceir cyfleusterau ar gyfer cynadleddwyr dros nos a chynadleddwyr dydd.