Gwyliau hygyrch

Dyluniwyd gyda gofal ysbaid ar flaen ein meddyliau

Gall ein Tîm Gofal profiadol helpu i deilwra’ch anghenion gwyliau hygyrch i sicrhau y cewch amser anhygoel yn ystod eich arhosiad gyda ni.

Mae’r gwesty’n gysylltiedig ag elusen Seren ac fe ddyluniwyd y gwesty gyda gofal ‘ysbaid’ ar flaen ein meddyliau fel gofod diogel sy’n eich caniatáu i ymlacio mewn awyrgylch cyfeillgar. Felly, mae mynedfeydd, ystafelloedd a chyfleusterau yn cefnogi amrediad eang o anghenion hygyrchedd er mwyn sicrhau annibyniaeth ein gwesteion cymaint â phosib.

Gyda’n profiad yn y maes yma (fel darparwr ac fel cwsmer yn trefnu gwyliau grŵp i’n hunigolion ein hunain), da y gwyddom beth yw’r heriau a wynebir o ganfod rhywle addas. Manteisiwyd ar ein profiad a’i wyrdroi er sicrhau y gallwn gynnal y rhan helaethaf o anghenion ac oedrannau, boed rheiny’n anableddau dysgu a/neu gorfforol neu anghenion iechyd meddwl, sydd angen cefnogaeth lawn neu ysgafn. Mae ein profiad gwyliau a gofal o ansawdd 5-seren!

Gwyddom fod egwyl gwyliau yn rhywbeth personol iawn - rhai unigolion eisiau gwasgu cymaint â phosib i’w arhosiad tra bod eraill yn chwilio am egwyl hamddenol a chyfforddus .... a gallwn helpu gyda hyn!

Gwyddom yr hoffai rhai rhieni sicrhau cyswllt rheolaidd ac i deimlo’n rhan o’r profiad gwyliau drwy luniau a diweddariadau dyddiadur dyddiol, tra nad yw eraill yn teimlo’r angen i wybod am y manylion ... a gallem helpu gyda hynny hefyd!

Gwerthfawrogwn eich annibyniaeth a gallwn gefnogi eich anghenion hygyrchedd ar lefel isel neu gamu mewn pe bae angen cymorth llaw o bryd i’w gilydd yn ystod eich arhosiad gyda ni.

Mae ein tîm gofal wedi hyfforddi ac yn brofiadol fel y gallent gynnig amrywiaeth o gefnogaeth arbenigol a byddant yn hapus i drafod eich anghenion - teilwriwn ein gwasanaeth yn unigryw i chi.

Gallwn addasu’r gwasanaeth yma ar gyfer unigolion sy’n chwilio am gefnogaeth galluogi (enablement) fel rhywbeth tymor byr. Gwasanaeth delfrydol wrth drosglwyddo o’r ysbyty cyn dychwelyd adref tra rydych yn cryfhau ac yn magu hyder mewn lleoliad cyfforddus. Gallwn gynnig tawelwch meddwl pe bae angen cefnogaeth gofal i fod ar gael drwy drefniant blaenorol.

Tra bod ein cefnogaeth yn unigryw, cynigiwn isod rhai awgrymiadau o becynnau poblogaidd i roi blas ar beth sydd ar gael!

Pecynnau Cefnogaeth Graidd

Pecyn Aros Annibynnol

Y dewis gan westeion sy’n dueddol o fod ag:-

  • Anghenion cefnogaeth ysgafn
  • Gwesteion sydd ag anableddau ond rhan helaethaf yn annibynnol ac efallai‘n dod heb gefnogaeth gofal

Mae’r pecyn yma’n cynnwys:-

  • Ystafell hygyrch gydag offer addasedig (hoists, canllaw gafael, cawod rowlio mewn)
  • Gwiriad dyddiol gan staff cefnogi (er enghraifft un neu ddwywaith y diwrnod)
  • System galw argyfwng ymatebol 24/7
  • Gweithgareddau a thripiau dewisol
  • Mynediad i gyfleusterau hygyrch (gan gynnwys y bwrdd pŵl, carioci a’r ystafell synhwyraidd ayb)

Pecyn Gofal wedi ei rannu

Y dewis gan westeion sy’n dueddol o fod ag:-

  • Anghenion cefnogaeth gymedrol a/neu gyda chefnogaeth gofal yn bresennol
  • Pobl gydag anableddau a chyda’u gofalwyr sydd angen cefnogaeth rannol yn ystod eu harhosiad

Mae’r pecyn yma’n cynnwys:-

  • Ystafell hygyrch ble gellir cyd gysgu neu gysgu mewn ystafelloedd cysylltiedig
  • 4-6 awr o ofal cefnogaeth bersonol y diwrnod (megis ymolchi, gwisgo cefnogaeth bwydo)
  • Amseroedd gofal ysbaid i ofalwyr (er enghraifft 2 awr y dydd o gefnogaeth un-i-un i roi’r cyfle i’r gofalydd orffwys neu fynd allan)
  • Mynediad dyddiol i ddigwyddiadau therapiwtig/hamddenol
  • Cefnogaeth amser bwyd pe bae angen

Pecyn cefnogaeth llawn

Y dewis gan westeion sy’n dueddol o fod ag:-

  • Anghenion Uchel neu Gymhleth
  • Anghenion gofal 24- awr neu gefnogaeth arbenigol, falle yn dod ei hunain

Mae’r pecyn yma’n cynnwys:-

  • Ystafell fawr hygyrch gydag offer o safon feddygol (gwely proffil, hoist, matres pwysedd ayb)
  • Gofal personol llawn gan staff cefnogi hyfforddedig (24/7)
  • Cefnogaeth arbenigol wedi ei deilwra (ee meddyginiaeth, bwydo PEG, gofal cathetr)
  • Cynllun gofal personol wedi ei ddylunio ar gyfer eich arhosiad
  • Amserlen lawn o weithgareddau therapiwtig a hamdden dewisol
  • Gofalwyr (os yn bresennol) yn derbyn ysbaid estynedig neu hyd yn oed ystafell ar wahân.

Pecyn Adfywio Gofalwr

Pecyn sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y gofalwyr sy’n ceisio ysbaid gan wybod bod eu hanwylyn yn cael cefnogaeth lawn yn ystod eu profiad gwyliau.

Mae’r pecyn yma’n cynnwys:-

  • Ystafell ar wahân i’r Gofalwr
  • Gofal 1:1 dyddiol i’r unigolyn a dderbynnir y gofal gan staff (oriau hyblyg i’w drafod)
  • Sesiynau cefnogaeth cyfoedion gyda gofalwyr eraill
  • Tripiau neu weithdai lleol wedi eu tywys

Pecyn Galluogi

Mae’r pecyn yma’n canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd wedi bod yn yr ysbyty am driniaeth neu’n dilyn cyflwr meddygol. Gwelwn y gwasanaeth yma fel un sy’n pontio rhwng gadael yr ysbyty a chyn dychwelyd adref.

Mae’r pecyn yma’n cynnwys:-

  • Cefnogi anghenion symudedd tymor byr
  • Helpu ail-adeiladu hyder yn eich galluoedd eich hun
  • Datblygu rhaglen ymadfer i adennill sgiliau allweddol wrth baratoi i ddychwelyd adref
  • Mae’r pecyn yma hefyd yn cynnwys elfen o wella

Pecynnau wedi eu teilwra, unigryw

Anelwn i gyfarfod rhan fwyaf o’n hymholiadau, felly beth am sgwrs!

Tra mai’r rhain yw ein pecynnau mwyaf poblogaidd, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol y gellir ychwanegu i unrhyw becyn i gynyddu hyblygrwydd a phersonoleiddio:-

Gwasanaethau dewisol y gellid eu hychwanegu:-

Gall y rhain gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:-

  • Trafnidiaeth – trafnidiaeth hygyrch ar gyfer tripiau neu apwyntiadau meddygol
  • Rhentu technoleg cefnogol - mynediad dros dro i gyfarpar cyfathrebu, cadeiriau olwyn wedi eu pweru ayb drwy ein darpariaeth Cymorth Seren
  • Opsiynau anifeiliaid anwes – i westeion gydag anifeiliaid sy’n rhoi cefnogaeth ymarferol neu emosiynol
  • Anghenion diwylliannol/crefyddol – a fyddwch cystal â thrafod eich anghenion ymlaen llaw
  • Gwasanaethau - mynediad at gefnogaeth ddietegol, ysbrydol neu ar sail iaith
  • Cefnogaeth ddietegol - cynlluniau wedi ei deilwra ar gyfer prydau gan gynnwys alergeddau, clefyd siwgr, dysffasia ayb
  • Cefnogaeth nos – gofal dros nos neu argaeledd staff i gysgu mewn
  • Cefnogaeth Cof - ar gyfer gwesteion sydd â dementia neu ddirywiad gwybyddol (staff a gweithgareddau arbenigol)

Esiamplau o Becynnau wedi eu cyfuno

Isod rydym wedi adnabod math o westai sydd wedi dewis un o’r pecynnau a awgrymwyd uchod sy’n dymuno manteisio ar opsiynau ychwanegol. Esiamplau’n unig ydynt i roi syniad sut mae’r gwasanaethau ychwanegol yn cydategu. Fodd bynnag, rydym yn hollol agored i drafod unrhyw anghenion eraill nad ydynt wedi rhestru:-

  • Oedolyn gydag anghenion symudedd ysgafn sydd falle’n teithio ei hun ac sy’n dymuno cymryd ein pecyn Arhosiad Annibynnol gyda thrafnidiaeth a chan gynnwys rhai therapïau.
  • Rhiant gyda phlentyn awtistig sy’n dymuno ystyried y pecyn Gofal wedi ei rannu gyda gofal plant ychwanegol a’r defnydd o’n gweithgareddau synhwyraidd - boed ein hystafell benodedig neu ddefnydd o’r uned symudol yn yr ystafell gwely.
  • Oedolyn gyda chyflwr sy’n dirywio yn cael gwyliau gyda’r partner ac efallai’n dymuno manteisio ar y pecyn Cefnogaeth Lawn gyda gofal clinigol ychwanegol ynghyd a dyddiau adfywio ychwanegol i’r gofalwr.

Hurio offer

Yma yng Ngwesty Seren, anelwn i gefnogi’r rhan helaethaf os nad pob angen er sicrhau eich bod yn cael egwyl bleserus. Ar sail ein profiad yn y sector gofal, dealltwriaeth am hygyrchedd a’n gwasanaeth darparu cymhorthion arbenigol, gallwn gynnig yr offer isod i’w hurio i hwyluso eich arhosiad gyda ni:

  • Eitemau Gofal Personol
  • Gwlâu Proffil
  • Estyniad i godi uchder Cadair
  • Cadeiriau Cefn Uchel
  • Cadeiriau codi a gostwng
  • Ffrâm Toiled
  • Sgwteri Trydan
  • Cadeiriau Olwyn
  • Ffrâm gerdded gydag olwynion
  • Fframiau Cerdded
  • Cadeiriau Cawod 

Bydd cost ychwanegol i logi’r offer yma, gyda’r pris yn ddibynnol ar yr eitem, a hyd amser ei hurio. Os hoffech wneud trefniadau i logi unrhyw beth yn ystod eich arhosiad, plîs cysylltwch â’r Gwesty, a gallwn wneud trefniadau ar eich rhan.

Bydd angen isafswm rhag rhybudd o 1 wythnos, yn enwedig ar gyfer eitemau sydd angen eu rhoi at ei gilydd, er efallai gallem drefnu eitemau llai sydd mewn stoc a heb fod angen eu rhoi at ei gilydd, yn gynt. Pe bae gennych angen unrhyw beth nad yw wedi ei nodi yn y rhestr uchod - sy’n cynnwys ein heitemau mwyaf poblogaidd - peidiwch oedi rhag cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion ymhellach ac fe wnawn ein gorau glas i ymateb i’ch anghenion.

Adborth Cwsmeriaid