Telerau Gwefan

1.Telerau
Drwy fynychu’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio gyda Thelerau ac Amodau ei Ddefnydd, holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol, ac yn cytuno mai chi sy’n gyfrifol am gydymffurfio gyda chyfreithiau lleol perthnasol. Os nad ydych yn cytuno gyda’r telerau hyn, fe’ch gwaherddir rhag defnyddio a chael mynediad i’r safle hwn. Caiff y deunydd a gynhwysir o fewn y wefan yma ei warchod gan hawlfraint perthnasol a chyfraith marciau masnach.

2. Defnyddio Trwydded
Rhoddir caniatâd i lawr lwytho dros dro un copi o’r deunyddiau (gwybodaeth neu feddalwedd) oddi ar wefan Gwesty Seren at bwrpasau personol, at bwrpas gwylio er budd personol yn unig. Hyn sy’n rhodd o drwydded, ac nid yn drosglwyddiad o deitl. O dan y drwydded hon, ni chewch:

  • Addasu neu gopïo’r deunyddiau;
  • Defnyddio’r deunyddiau at bwrpasau masnachol, neu ar gyfer unrhyw arddangosiad cyhoeddus (fasnachol neu arall);
  • Ymgeisio i ddadgodio unrhyw feddalwedd sy’n gynwysedig ar wefan Gwesty Seren;
  • Dileu unrhyw hawlfraint neu nodiadau perchnogol eraill o'r deunyddiau; neu
  • Trosglwyddo deunyddiau i berson arall neu adlewyrchu’r deunyddiau ar weinydd arall.

Caiff y drwydded ei diddymu’n awtomatig os ydych yn torri unrhyw un o’r cyfyngiadau a gellir ei therfynu gan Westy Seren ar unrhyw adeg. O fod wedi terfynu eich ymweliad o’r deunyddiau, neu o derfynu’r drwydded hon, mae’n rhaid dinistrio unrhyw ddeunyddiau a lawr lwythwyd sydd yn eich meddiant boed mewn dull electroneg neu bapur.

3. Ymwrthodiad
Mae’r deunyddiau ar wefan Gwesty Seren yn cael eu darparu “fel ag y maent”. Nid yw Gwesty Seren yn rhoi unrhyw warant, mynegedig na chyfriniedig, ac yn y fan hon yn datgan ac yn gwadu pob gwarant arall, gan gynnwys heb gyfyngiad, warantau neu amodau ymhlyg o fasnachadwyedd, addasrwydd at bwrpas penodol, neu beidio â thorri eiddo deallusol neu unrhyw dor-cyfraith arall ar hawliau. Ymhellach, nid yw Gwesty Seren yn gwarantu nac yn gwneud unrhyw ddatganiadau ynghylch cywirdeb, y canlyniadau tebygol, neu ddibynadwyedd defnyddio’r deunyddiau ar ei wefan rhyngrwyd nac fel arall mewn perthynas â’r deunyddiau hynny neu ar unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r wefan hon.

4. Cyfyngiadau
Ar unrhyw achlysur, ni fydd Gwesty Seren, neu ei gyflenwyr yn atebol am unrhyw ddifrod (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu, i ddifrod o golli data neu elw, neu oherwydd ymylu busnes) a gyfyd o ddefnydd neu’r anallu i ddefnyddio’r deunydd ar safle gwefan Gwesty Seren, hyd yn oed os bydd Gwesty Seren neu gynrychiolydd awdurdodedig o Westy Seren wedi cael rhybudd ar lafar neu mewn ysgrifen am y posibilrwydd o ddifrod o’r fath. Oherwydd nad yw rhai awdurdodaethau’n caniatáu cyfyngiadau ar warantau cymhlyg neu gyfyngiadau ar atebolrwydd am niwed canlyniadol neu eilaidd, efallai na fydd y cyfyngiadau hyn yn berthnasol i chi.

5. Diweddariadau a Chamgymeriadau
Gall y deunyddiau sy’n ymddangos ar wefan Gwesty Seren gynnwys camgymeriadau technegol, teipograffeg neu ffotograffig. Nid yw Gwesty Seren yn gwarantu cywirdeb unrhyw ddeunyddiau ar ei wefan na chwaith ei fod yn gyflawn nac yn gyfredol. Gall Gwesty Seren gwneud newidiadau i’r deunydd a gynhwysir ar ei wefan ar unrhyw amser heb rybudd. Fodd bynnag, nid yw Gwesty Seren yn gwneud unrhyw ymrwymiadau i ddiweddaru’r deunyddiau.

6. Dolenni
Nid yw Gwesty Seren wedi adolygu holl safleoedd sy’n gysylltiedig â’i gwefan ac nid yw’n gyfrifol am gynnwys unrhyw un o’r dolenni safle. Nid yw cynnwys y dolenni yn awgrymu cymeradwyaeth gan Westy Seren o’r safle. Mae defnydd unrhyw wefan gysylltiedig ar risg y defnyddiwr ei hun.

7. Addasiadau Termau Defnydd Safle
Gall Gwesty Seren adolygu’r termau defnydd yma i’w gwefan ar unrhyw adeg heb ragrybudd. Wrth ddefnyddio’r gwefan hwn, rydych yn cytuno i ymrwymo i fersiwn cyfredol y Telerau ac Amodau Defnydd yma.

8. Llywodraethu Cyfreithiol
Caiff unrhyw hawl mewn perthynas â gwefan Gwesty Seren ei llywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru heb sylw i wrthdaro darpariaeth gyfreithiol.

Telerau ac Amodau perthnasol i ddefnydd Gwefan