Gwobrwyon
Dathlu ein llwyddiannau
Gwobrwyon
Gwobr Prestige 2024-25 a 2025-2026Cefnogaeth Anabledd Cyfundrefn Di-Elw’r Flwyddyn

“Braint oedd cael ein hadnabod am y wobr yma yn 24/25 ac rydym yn ARBENNIG o falch o’i dderbyn eto eleni am yr eildro”. Ein nod yw sicrhau bod ein hunigolion yn byw eu bywyd gorau posib ac i’w cefnogi nhw i lwyddo gyda’r nod yma. Eleni, aeth 2 o’n hunigolion gyda ni i gasglu’r wobr. Dywedent eu bod wedi cael ‘yr amser gorau’ ac iddynt fwynhau’r holl brofiad yn fawr ... er eu bod yn awyddus iawn i gyrraedd adref mewn digon o amser i’w gêm o snwcer!
Gwobrau Chwaraeon Gwynedd (Byw’n Iach)Darparwr Cynhwysol y Flwyddyn 2024 (2il)

Dywedodd aelod o’r tîm “Rydym yn ymarfer yn ofnadwy o galed ac yn wir mwynhau chwarae pêl droed gyda’r Hyfforddwr ar ddydd Llun. Dwi’n hoff ofnadwy o’n cit hefyd – ni ddyluniodd o ein hunain – mae’n cŵl tydi! Rydym wedi dechrau chwarae mewn cystadlaethau rŵan hefyd a dwi’n meddwl y gwnawn ni ennill y tro nesaf!”
Cyflogwr y Flwyddyn – Dysgu yn y Gweithle 2024 Grŵp Llandrillo Menai
Mae Consortiwm Dysgu yn y Gweithle Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal Gwobrwyon blynyddol i adnabod prentisiaid talentog a’u cyfraniad eithriadol yn y gweithle a thu hwnt.
Dywed y Tîm yn GLLM “Drwy ei arweinyddiaeth a diwylliant, nid yn unig y mae Seren Cyf yn rhagori fel busnes sy’n darparu cyfleoedd i unigolion gydag anableddau dysgu ond mae hefyd yn gyflogwr ardderchog sy’n cefnogi aelodau tîm i ddatblygu a thyfu drwy gwblhau prentisiaethau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â lefel 3 ac uwchlaw.”

“Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i ymateb i iaith ddewisol ein hunigolion, y rhan helaethaf ohonynt sy’n Gymraeg iaith gyntaf. Mae hyn hefyd yn wir am y rhan helaethaf o’n staff, gyda dros 95% yn rhugl yn y ddwy iaith. Fel elusen fach wedi ei sefydlu mewn ardal o fwyngloddio llechi traddodiadol, credwn ei fod yn holl bwysig i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth. Roeddem yn hynod o falch o fod wedi derbyn y wobr yma i gydnabod ein buddsoddiad parhaus yn yr ardal”
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Noddwyd Gwobrwyon Rheolaeth Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (gwobrwyon CLAS) 2025 gan Lywodraeth Cymru. Dechreuwyd y gwobrwyon yn 2019 a chânt eu rhedeg gan FAGC i gydnabod rheolaeth cymunedau o ofodau gwyrdd.
Green spaces include a range of vegetated land such as parks, community gardens, orchards, woodlands and hedges, informal green spaces, allotments and food growing sites, plus areas of water, including rivers, canals, lakes, ponds. Community managed spaces like these are valuable for both people and nature. They are also run by volunteers who give up their spare time for their local environment and community. The Welsh Government funded Social Farms & Gardens Community Management Award is a stepping stone to achieving a Green Flag Community Award run by Keep Wales Tidy.
I ennill y wobr, rhaid i grwpiau ddangos eu bod wedi’u hyswirio ar gyfer y gweithgareddau, wedi cael caniatâd perchennog y tir at ddefnydd y safle, eu bod yn cynnwys y gymuned fel rhan o’r broses penderfyniadau ac yn gweithio gyda phartneriaid megis yr awdurdod lleol.

“Mae’r wobr hon yn binacl 4 mlynedd o waith caled gan staff, unigolion a gwirfoddolwyr sydd i gyd wedi cynorthwyo i wyrdroi beth oedd yn dirwedd wedi gordyfu yn dilyn Covid i hafan bywyd gwyllt croesawgar ac ystyriol gyda golygfeydd yn edrych dros fynyddoedd Eryri a gwarchodfa adar Gweilch y Pysgod.
Ac mae gennym ragor o syniadau i’w ddatblygu, felly cadwch lygaid ar ein Gerddi!
Gwobr Twristiaeth - Go North Wales (rownd derfynol) Gwobr Twristiaeth Hygyrchedd a Chynhwysol.

“Rydym yn rhan o’r ffordd drwy gynllun buddsoddi 4 blynedd i ddatblygu Gwesty Seren; roeddem yn falch iawn o gael ein cydnabod fel un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ymhlith grŵp cystadleuol cryf iawn. Mae ein cynlluniau datblygu yn parhau er mwyn sicrhau bod pob gwestai yn cael seibiant bythgofiadwy mewn amgylchedd cyfforddus. Mae ein gwasanaeth, a redir ar y cyd ag oedolion ag anableddau dysgu, yn cynnig profiad gwyliau unigryw i bawb, gan gynnwys gofynion gwesteion hygyrch a chynhwysol.”
Cydnabyddiaeth
Cynnig Cymraeg

Yr Wyddfa di-blastig

Visit Wales – Graddfa 3 Seren
