Ein Hanes
Canfyddwch fwy amdanom ni
1600'au
Fel eiddo, mae Bryn Llewelyn wedi chwarae rhan bwysig yn yr ardal leol. Dengys cofnodion cynnar y gwnaed taliad i Rôl Rhentu’r Goron yn Ardudwy ym 1623 gan berchennog y pryd, Robert Wynn, oedd yn cyfateb i daliad blynyddol o 1s 2d mewn rhent. Cydnabuwyd bod hyn yn swm sylweddol o arian, yn sylweddol fwy nag yr oedd tiroedd fferm fawr yn ei dalu ar y pryd, sy’n cyfleu bod ganddo diroedd helaeth. Mae cofnodion sy'n dyddio'n ôl i 1688 yn dangos bod yr eiddo yn gysylltiedig â John Wynn o Felai, Sir Ddinbych.
Roedd cysylltiad agos â theulu Niwbwrch o Blas Glynllifon a oedd yn berchen ar lawer iawn o dir yr ardal a dylanwadodd hyn ar enwi sawl ffordd yn lleol.
1800'au
Gwyddom fod John Baines, masnachwr llechi, yn byw ym Mryn Llewelyn ym 1833 oherwydd iddo gysylltu â'r Arglwydd Niwbwrch yn gofyn am brydles ar gyfer y tai a'r tir. Hefyd, bod John James Mason, Ysw o Cheltenham, oedd â buddiant personol yn Chwarel Lechi Manod yn briod i Susannah Sophia, merch hynaf James Stokes Ysw o Fryn Llewelyn yn 1839.
Mae’n glir bod y perchnogion ym 1842 yn gysylltiedig â Chwmni Llechi Manod oherwydd y cynhaliwyd gwledd yn y tŷ i’w gweithwyr oedd yn cynnwys "gormodedd o bwdin eirin" fel y’i cynhwyswyd mewn erthygl papur newydd. Ym 1844, adroddodd y papur lleol hefyd am ddigwyddiad gwerth ei adrodd ... roedd gan berchennog y pryd, James Meyrick Ysw, feipen yn mesur 2 droedfedd, 6 modfedd o gylchedd yn tyfu yn ei ardd!
Oddeutu 1851 ac am gwpl o flynyddoedd, cafodd y tŷ ei rhentu i deulu Spooner. James Swinton Spooner oedd mab yr enwog James Spooner a fu’n gyfrifol am oruchwylio adeiladu Rheilffordd Ffestiniog - llinell injan stêm cul, 12 milltir o hyd lawr allt - fel modd o gludo llechi o’r mwyngloddiau’n amgylchynu Blaenau Ffestiniog i’r môr ym Mhorth Madog (Porthmadog) gan ddefnyddio disgyrchiant. Yn y blynyddoedd diweddarach, gellid gweld yr injans stêm yn glir yn mynd fyny a lawr drwy’r dyffryn o flaen y tŷ.
Roedd James Swinton Spooner yn Beiriannydd ac yn Arlunydd, ond fe’i hadnabuwyd fwyaf am y gwaith a gwblhaodd yn ddiweddarach wrth arolygu a goruchwylio adeiladu Rheilffordd Tal-y-llyn gyda’i frawd Thomas ym 1865.
Daeth y tŷ i berchnogaeth Miss Charlotte Light, merch y diweddar Syr Henry Light erbyn oddeutu 1883. Fe’i hadnabuwyd fel dynes hynod garedig, yn enwedig tuag at dlodion a rhoddai o’i hamser yn hael. Bu iddi roddi casgliad o lyfrau gwerthfawr i’r Llyfrgell Rydd ym 1894.
O benderfynu ymadael, bu iddi werthu ei holl ddodrefn tŷ ac effeithiau ym 1901.
1900'AU
Daeth y tŷ yn eiddo i William Charles Wynn a’i wraig oedd yn hanu o Kentucky yn dilyn eu priodas ym 1900.
Ym 1903, arferai’r Arglwydd Niwbwrch a’i deulu wneud defnydd rheolaidd o Fryn Llywelyn fel tŷ gwyliau haf, gan gymryd rôl weithredol yn y gymuned, fynychu ffeiriau a chynnal digwyddiadau ayb. Daeth y cartref yn un o hoff lefydd mab yr Arglwydd Niwbwrch.
Lord Newborough’s son – the 4th Baron Newborough – died at the age of 43 years in July, 1916 of pneumonia, having been in the Western Front trenches during the First World War and it was his lasting wish to be buried facing the views of the Maentwrog valley. It is said that he requested to be buried on Newborough Hill (Pen Ffridd Tŷ Isaf run by A.S.Neill) in the field opposite Gwesty Seren, in a seated position so that he would permanently overlook the views of the Dwyryd River – his favourite vista.
Er bod eu prif breswylfa yn Llundain, roedd yr Arglwydd a’r Arglwyddes Niwbwrch yn dal i ddefnyddio Bryn Llywelyn yn y 1920au, gydag erthyglau papur newydd yn adrodd eu bod wedi cyrraedd ym 1922, yn agor basâr ym 1928 a hefyd yn chwilio am staff ychwanegol ym 1929.
Ers hynny, mae’r tŷ wedi cael amrywiaeth o ddefnydd gwahanol.
Cafodd ei lesio i 2 Fynach - Brawd Douglas a Brawd Charles a daeth yn Gartref i St Ffransis ym 1932. Roeddent yn caniatáu’r cardotwyr lleol i gael bwyd, diod a lloches yn stablau’r eiddo. Cafodd yr adeilad ei ail-bwrpasu’n ddiweddarach fel ysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Ysgol Summerhill a rhedwyd gan A.S.Neill - ysgol a redwyd yn ddyngarol iawn. Mae’r stori’n mynd yr arferai’r hogiau ifanc, oedd yn aros yn yr ysgol, dynnu amdanynt a nofio’n noeth lymun ym mhwll yr ardd ffrynt. Felly byddai’r plismon pentre’n rhuthro i ben pellha’r pentref i gadw’r merched ifanc i ffwrdd fel na fyddent yn gweld neu’n gwneud unrhyw beth amhriodol - ni ddengys cofnodion pa mor llwyddiannus oedd yr ymdrech honno!
Erbyn 1946, prynodd Cyngor Meirionnydd Bryn Llywelyn a’i redeg yn wreiddiol fel Cartref Plant am nifer o flynyddoedd cyn ei droi’n Gartref Gofal i Bobl Hyn yn y 60’au. Mae nifer yn dal i fyw yn y dalgylch oedd, fel plant, wedi treulio amser yn y Cartref Plant am naill reswm neu’r llall a chlywir nifer fawr o straeon am yr amseroedd a’r bywyd yn y cartref pan oeddent yn ifanc. Yn wir, bu i un o Aelodau Bwrdd yr elusen yntau dreulio amser yma am sawl mlynedd yn blentyn gyda’i frodyr a’i chwiorydd.
2000'au
Adleoliwyd y Cartref Gofal Henoed i adeilad newydd yn y pentref a chaewyd drysau’r tŷ am y tro olaf yn 2010 hyd nes i elusen Seren Cyf ei brynu a’i ail-wneud fel Gwesty Hygyrch. Mae Bryn Llywelyn erbyn hyn wedi dod i ddiwedd ei daith ac wedi dychwelyd fel preswylfa sy’n cynnig gwyliau i westeion! ...
Ailgynhyrchwyd gyda chefnogaeth garedig y Gymdeithas Hanesyddol, gyda diolch arbennig i Steffan ab Owain am ei weledigaeth amhrisiadwy.