Hwyl Nadolig: Gwneud Picls Cartref

Be well am roi naws Nadoligaidd nag arogl siytni sy'n berwi a'r sŵn pleserus o jariau’n cau wrth iddynt oeri. Eleni, mae ein grŵp o unigolion wedi bod yn brysur yn troi cynnyrch Cymreig ffres i jariau lliwgar o lawenydd ar gyfer ein ffeiriau lleol.

Mae gweithio gyda'n gilydd yn y gegin wedi dod yn un o'n traddodiadau tymhorol sydd yn ffefryn gan bawb. Rydym yn torri nionod a cabaij coch, yn mesur sbeisys, ac yn rhannu straeon wrth weithio. Mae gwneud picls hefyd yn dangos creadigrwydd pawb - mae rhai yn hoffi blasau cryf gyda hadau mwstard a sbeisys tsili, tra bo eraill yn dewis y rhai clasurol. Mae pob jar yn wahanol, ond mae pob un wedi'i wneud gydag amynedd, gwaith tîm, a llawer o chwerthin.

Nid yw'r sesiynau hyn yn ymwneud â choginio yn unig; maent yn ymwneud â hyder, cysylltiad, a dathlu cryfderau pob unigolyn. Mae gwylio pawb yn labelu eu jariau â balchder, yn barod ar gyfer y ffair Nadolig, yn ein hatgoffa pa mor werthfawr yw gweithgareddau syml.

Os ydych chi'n ymweld â'r ffair, edrychwch am ein stondin llawn picls cartref. Maent yn gwneud anrhegion perffaith - ac mae pob pryniant yn cefnogi cyfleoedd i'n hunigolion anhygoel! 

Dyma i fwyd blasus, cwmni da, a Nadolig hapus iawn!

Rhannwch y post