Datganiad Hygyrchedd

Dyluniwyd gyda gofal ysbaid ar flaen ein meddyliau

Cafodd y gwesty ei ddylunio gyda gofal ysbaid ar flaen ein meddwl; felly, mae ein pwyntiau mynediad, ystafelloedd ac adnoddau yn ystyried amrediad eang o anghenion hygyrchedd er cynnal annibyniaeth ein gwesteion cymaint â phosib.

Cyn cyrraedd

Gellir llogi a gwneud ymholiadau drwy ein gwefan, ffôn neu e-bost.  

Wrth gyrraedd

Mae gennym ddwy ddreif tarmac gydag ardal parcio i ymwelwyr sy’n dal hyd at 26 o geir. Mae’r gofod parcio ger ochr y gwesty ar ogwydd reit serth tuag at y gwesty (9 gofod), tra bo’r rhai o flaen y gwesty ar dir gwastad (17 bae) sy’n cynnwys 4 gofod parcio i’r anabl a leolir yn union wrth y grisiau a’r lifft sy’n eich arwain at brif fynedfa’r gwesty. Darperir gwasanaeth porthor pe bai angen cymorth i gludo’ch bagiau.

Derbynfa

Ardal agored, wedi ei goleuo’n dda yw ein derbynfa a lleolir hon yn uniongyrchol o flaen y drysau dwbl gwydr awtomatig ar y llawr gwaelod. Yno ceir dwy soffa ledr cyfforddus y gallwch orffwys arnynt yn hamddenol.

Mannau Cyhoeddus

Ar y llawr gwaelod y lleolir holl fannau cyhoeddus y gwesty. Ceir defnydd o ramp fel dull gwahanol o fynychu’r lolfa sy’n osgoi defnyddio’r 2 step fel arall. Lloriau caled (llechen/pren) sydd ar y llawr gwaelod ac eithrio’r lolfa sydd wedi ei garpedu a’r coridor cefn sy’n arwain at yr ystafell Synhwyraidd, Storfa Beics Diogel, yr Ystafell Radio a Swyddfeydd.

Mae gofod eistedd hyfryd i’w gael yn ffenestr bae'r Lolfa’n edrych dros Aber Dwyryd a chadwyn mynyddoedd Eryri. Ar wal talcen y Lolfa mae cwpl o seddi ffenestr yn edrych allan at yr ardd ochr. Wrth gefn y lolfa mae gennym ychydig o seddi gyda breichiau a byrddau, ynghyd â bwrdd pŵl yn y canol er defnydd ein gwesteion.

Ceir lifft cadair batri pwrpasol i fyny’r prif risiau sydd wedi ei garpedu. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o’n gwesteion sydd ag anghenion symudedd yn defnyddio’r lifft pwrpasol sy’n mynd â nhw yn uniongyrchol i’r ystafelloedd gwely ar y llawr gyntaf.

Drwy risiau serth y cyrhaeddir ystafelloedd gwely’r llawr uchaf ac nid ydynt yn briodol i westeion sydd mewn cadair olwyn na chwaith gydag anghenion symudedd.

Mae coridor y llawr gyntaf wedi ei oleuo’n dda ac wedi ei garpedu tra bod lloriau caled o fewn holl ystafelloedd gwely’r llawr gyntaf. Mae grisiau unai o fewn neu yng nghoridor mynedfa ystafelloedd 4, 8, 9 a 10.

Mae’r drysau i’r ystafelloedd yn hen ddigon llydan i gymryd cadeiriau olwyn.

Mae’r cyfleusterau cyhoeddus yn hollol hygyrch ac ar gael ar lawr gwaelod y Gwesty heb fod yn bell o’r dderbynfa ac yno ceir y rheiliau gafael priodol a chortyn larwm argyfwng. Gall y cyhoedd ddefnyddio’r cyfleusterau hyn pe bai angen. Mae gennym hefyd gyfleusterau cyhoeddus at ddefnydd cyffredinol - y ddau ar gyfer dynion a merched, ac wedi eu lleoli ger y lolfar ar waelod y prif goridor.

Mae cyfleusterau bwyta gyda chadeiriau â chefn uchel ar gael yn yr ystafell brecwast a hefyd yn y lolfar - cynigir gwasanaeth gweini yn y ddwy ardal. Gallwn ostwng peth o’r goleuadau i greu awyrgylch atmosfferig pe bai angen, ac mae’r holl ystafelloedd cyhoeddus yn wynebu am y ffrynt gyda ffenestri mawr i wneud y gorau o olygfeydd o dirwedd naturiol.

Chwaraewn gerddoriaeth gefndirol yn isel i greu awyrgylch ymlaciol yn y mannau cyhoeddus gyda phaneli rheoli’r sain yn annibynnol i’w gael mewn rhai ystafelloedd.

Mae gwasanaeth clywedol (“loop”) wedi ei osod yn ardaloedd cyhoeddus y gwesty drwyddi draw i gydnabod anghenion clywedol.

Gallwn gynorthwyo gydag amrediad o anghenion dietegol gan gynnwys dysffasia.

Llety

Cynigiwn amrediad eang o anghenion hygyrch o fewn sawl un o’n hystafelloedd gwely en-suite hyd at ac yn cynnwys 2 ystafell fawr sy’n cynnwys gwlâu proffil ac ystafelloedd gwlyb mawr, gydag offer codi (hoist) symudol neu wedi ei osod mewn lle a digon o le at ddefnydd cadair olwyn i gynorthwyo gyda hygyrchedd.

Mae’r ystafelloedd yn cynnwys ystyriaethau cynnil megis cawodydd proffil isel yn yr ystafelloedd ‘en-suite’. Fodd bynnag, fe’ch argymhellir i edrych ar y lluniau a dynnwyd o sawl cyfeiriad fesul ystafell i ddangos gosodiad yr ystafelloedd a’u hygyrchedd yn well.

Oherwydd oedran a natur yr adeilad, mae cyfyngiadau ffisegol sy’n gwneud rhai ystafelloedd gwely’n amhriodol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gwesteion sydd â gofynion symudedd dwys. Cynhwysa’r rhain 2 ystafell ar y llawr cyntaf oherwydd bod ganddynt risiau o fewn yr ystafell - sef ystafelloedd 4 ac 8. Mae mynediad i ystafelloedd 9 a 10 drwy goridor sydd â nifer o risiau i fynychu’r ystafelloedd. Mae 3 ystafell bellach (ystafelloedd 11-13) ar yr ail lawr nad oes modd eu cyrraedd ac eithrio drwy set o risiau.

Ceir ffonau ym mhob ystafell sydd wedi cysylltu â’r brif dderbynfa. Drwy ddeialu 300 o ffôn yr ystafell wely, fe ewch i ddesg y dderbynfa.

Mae gennym wasanaeth ‘cysgu mewn’ o blith staff y gwesty a gallent ymateb i’ch anghenion.

Gwirir y larymau tân yn wythnosol a chenir y clychau’n barhaus wrth wneud hyn a hefyd mewn gwir argyfwng. Ceir cefnogaeth pe bai angen gwagio’r adeilad. Plîs rhowch wybod i ni wrth gyrraedd pe bai gennych angen cymorth gyda hyn. Bydd nodyn hongian drws yn cael ei roi ar du allan i’r drws i gadarnhau eich bod angen cefnogaeth pe cyfyd argyfwng pe byddai angen gwagio’r adeilad. Mae ein staff craidd wedi eu hyfforddi mewn technegau arbenigol gwagio adeilad gyda matres (‘ski pad’) fel rhan o’u hyfforddiant marsial tân.

Pe bai gennych ymholiadau pellach, peidiwch oedi rhag cysylltu gyda’r Gwesty am gyngor.