Gerddi 'Stiniog

Gerddi ‘Stiniog

Beth am grwydro i fyny at Erddi ‘Stiniog ar nosweithiau braf – mae’n werth gwneud y trip i fyny allt serth a bachu sedd dan y pergola i fwynhau’r golygfeydd ar safiad uwch.

Mae’r gerddi ymhlith darpariaeth wreiddiol sydd o dan ofal yr elusen, ac wedi eu creu bron i 30 o flynyddoedd yn ôl i ddatblygu sgiliau garddwriaethol a chodi diddordeb cynhenid mewn garddio ymysg oedolion sydd ag anableddau dysgu ac /anableddau corfforol. Dros y blynyddoedd blas cyfnewidiol fu i’r gerddi hyd nes i bethau fynd a’u pen iddynt ar ddiwedd y Cyfnod Clo oherwydd bod y gerddi wedi gordyfu’n sylweddol.

Gyda chymorth Prosiect Pum Mil (rhaglen deledu Gymraeg sy’n debyg i DIY SOS) a llwyth o gefnogaeth gan y gymuned a hefyd busnesau lleol, fe’n galluogwyd i ail wneud y gerddi mewn dau ddiwrnod a hanner.

Ac ers hynny mae’r gerddi wedi datblygu a mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Mae'r tîm bach yn ymfalchïo yn eu gwaith ac wrth eu boddau’n croesawu ymwelwyr yn ystod y dydd, ac felly rydym wedi agor y gerddi a'u gwneud yn ofod cymunedol i’r ardal leol. Rydym yn annog ymweliadau gan glybiau a grwpiau ac yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o ysgolion i ddatblygu gwahanol brosiectau, gan gynnwys meithrin sgiliau addysgiadol sy’n annog diddordeb mewn bywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy wneud tasgau ymarferol. Mae’r gofod yn heddychlon ac yn cynnig hafan dawel i fyfyrio, neu gyfle i godi rhywfaint o chwyn os ydych awydd gwneud hynny! Mae’r gerddi’n cael eu cynnal gennym mewn ffordd mor organig â phosib a byddwn yn compostio ein gwastraff gardd. Rydym wedi cychwyn derbyn ychydig o waith allanol wrth gydweithio gyda’r Cyngor Tref. Mae hyn wedi ein galluogi i gyflogi unigolyn i wneud y gwaith yma. This has enabled us to employ an individual to undertake this work.

Erbyn hyn, rydym yn gallu cynnig profiad synhwyraidd llawn gydag ardal yn yr ardd sydd wedi ei chodi’n uwch ac yn llawn blodau synhwyraidd a dŵr yn llifo. Tu draw i’r ardd hon ceir cerflun gwreiddiol o eiddo David Nash. Dewiswyd y lleoliad hwn gan y Cerflunydd ei hun er mwyn iddo blethu gyda’r boncyffion oedd yno’n barod a gwneud gwarchodfa i drychfilod. Draw ymhellach, mae gennym bwll bach er mwyn annog bywyd gwyllt. Wrth i ni gyflwyno’r syniad ar y cychwyn, roedd yr unigolion wrth eu boddau’n meddwl y gallent nofio a physgota yno - buan iawn y bu i ni sylweddoli’r angen sylweddol i reoli disgwyliadau ... a rhaid oedd iddyn nhw gadw wyneb o glywed y newyddion!

Mewn amser, bydd ardal y pwll wedi ei warchod gan dyfiant naturiol, felly rydym eisoes wedi adeiladu cwt sbecian hygyrch er mwyn gallu gweld y trychfilod a’r bywyd gwyllt sy’n cael eu dennu at y pwll.

Ond mae’r stori o sut y daeth y cwt sbecian i fodolaeth yn un ddiddorol ynddi ei hun. Chwythwyd coeden larches anferth i’r llawr mewn storm nepell 5 medr i ffwrdd o’r pwll. Roedd y prosiect pwll a’r cwt sbecian yn un o gydweithio gyda Menter Gymunedol y Dref Werdd a nhw ddaru dorri, planio ac adeiladu’r cwt-ymylon-byw ar y safle gan ddefnyddio’r goeden - gwir brosiect o ailgylchu, ail-bwrpasu ac ail-ddefnyddio.

Ewch i sbecian ar ardal y cychod gwenyn - bwriadwn ehangu’r ardal yma i ddal hyd at 8 cwch dros amser, gyda’r bwriad, pan fo’r gwenyn wedi sefydlu’n ddiogel, o gyflenwi mêl i’r Gwesty a’i werthu’n lleol. Maent wedi creu diddordeb enbyd ymhlith y staff a’r unigolion fel ei gilydd sy’n ddatblygiad ffantastig ac annisgwyl.

Ond mae gennym ieir hefyd erbyn hyn, a maen nhw’n derbyn y gofal gorau gan unigolion – welwyd erioed ieir yn cael cymaint o fwythau! Mae’r gofal yn cael ei ad dalu ar ei ganfed gyda digonedd o wyau, sydd eto’n cael eu cyflenwi i’r Gwesty a'u gwerthu’n lleol. Mae ein hunigolion wrth eu boddau yn hel yr wyau ac mae’r weithgaredd yma wedi creu diddordeb o’r newydd yn y gerddi.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r gerddi’n parhau ac rydym yn ehangu ardal ein gardd farchnad i dyfu hyd yn oed mwy o gynnyrch, eto i gyflenwi’r Gwesty, ei werthu’n lleol ond hefyd i wneud ein picls a’n cyffeithiau cartref. Parhawn hefyd gyda’n prosiectau torri coed priciau cynnau tân yn ogystal â chreu bagiau coed tân ar gyfer tanau tu mewn a thu allan - ffefryn ymysg trigolion lleol a’r safleoedd gwersylla.

Ond mae gennym hefyd gynlluniau i ddatblygu ardal perllan ar y llethr rhwng y Gwesty a’r Gerddi i gyfrannu ymhellach i’r cyffeithiau cartref.

Heb anghofio am ein hardaloedd blodeuog yn yr ardaloedd blodau aeddfed - tyfwn amrywiaeth mawr o blanhigion i’w gwerthu yn y gymuned leol. Mae'r gerddi yn reit naturiol gan fod hyn yn annog bywyd gwyllt ac maent yn llawn o lwybrau troellog i dywys ymwelwyr o amgylch y gerddi. Er nad yw’r gerddi’n gwbl hygyrch o’r Gwesty oherwydd y llethr serth, mae mynediad i’w gael yn ystod dyddiau’r wythnos drwy’r brif fynedfa sy’n mynd drwy’r fynwent, ac yno hefyd mae gennym ardal parcio bach. Mae llawer o’n llwybrau’n hygyrch i gadair olwyn ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cymaint o’r gerddi ag sy’n ddiogel-bosibl yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Gyda’r holl fuddsoddi yn y gerddi, llawer na fyddai wedi bod yn bosib oni bai am arian grant, rydym wedi ymgeisio am, ac wedi llwyddo i dderbyn amrywiaeth o wobrwyon. Yn ychwanegol, rydym yn arbennig o falch o gael ein derbyn i fod yn rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol yn 2026 ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein syniadau’n dwyn ffrwyth. Ond mae stori’r gerddi’n parhau gan fod gennym syniadau newydd i’w gwireddu!