Ystafelloedd Gwely

Gweler ein hystafelloedd gwely

Mae ein hystafelloedd gwely’n gyffyrddus a llawn cymeriad, gyda dewisiadau hygyrch ar y llawr cyntaf a’r ystafelloedd Pentis yn cynnig golygfeydd godidog. Mae pob un wedi’u haddurno’n unigryw gydag eitemau lleol ac yn cynnwys en-suites modern, Wi-Fi am ddim a’r manion eraill sy’n sicrhau arhosiad ymlaciol.

Ar y llawr gyntaf, ceir mynediad i’r ystafelloedd gwely unai drwy lifft penodol neu, drwy ddefnyddio’r prif risiau sydd hefyd â lifft cadair batri, er hwylustod.

Lloriau carped sydd ar y coridorau a’r grisiau. Mae'r coridorau yn olau a llachar gydag addurniad syml. Ar y landin ger y lifft, ceir ardal eistedd agored sy’n edrych dros gefn y gwesty lle mae dewis bach o lyfrau at ddefnydd gwesteion. Mae sawl drws a grisiau dihangfa dân allanol (i’r ddau lawr) ger yr ochr ac yng nghefn yr adeilad.

Cyfeiriwn at ystafelloedd yr ail lawr fel y Pentisiau a cheir mynedfa drwy set o risiau 12 step.

Mae gan y rhan fwyaf o ystafelloedd, olygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, tra bo’r lleill yn edrych dros yr ardd naturiol, sy’n annog bywyd gwyllt.

Yn ddiweddar, ail addurnwyd holl ystafelloedd y llawr gyntaf gan gymryd ysbrydoliaeth o’r dirwedd naturiol i gynnig palet o liwiau tawel, cydlynol a dodrefn cyfforddus, moethus a chysurus.. Mae gan y rhan helaethaf o ystafelloedd gwely oleuadau uwchben y gwlâu ynghyd a lampau bwrdd a reolir gan switshis wal trwy osod y cerdyn allwedd yn y slot ger y drws wrth fynd i mewn i’r ystafell.

Rhifau sydd ar bob drws ystafell ond hefyd rhoddwyd enw ar blât llechen wedi eu hysbrydoli gan enwau chwareli llechi lleol hanesyddol. Nodir y rhifau/enwau cyfatebol ar waled y cerdyn allwedd.

Wrth gyrraedd, cewch gynnig taith o gyfleusterau’r llawr gwaelod cyn cael eich tywys i’ch ystafell. Addurnir bob ystafell wely gydag amrywiaeth o luniau a dynnwyd gan ffotograffydd o blith ein staff sydd yn gerddwr, mynyddwr a beiciwr er mwyn talu teyrnged i dreftadaeth gyfoethog ein diwydiant llechi.

Llawr Cyntaf

Ystafell 1

Ystafell sy’n wynebu’r cefn, gyda dau wely sengl a drws mewnol sy’n gyd gysylltu gydag ystafell 2.

O’r ffenestr gefn, mae golygfeydd cyfyngedig o’r ardd gefn a hefyd harddwch pensaernïol ac onglau anghyffredin y gwahanol doeau llechi o’r ffenestr ochr.

Wedi ei haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau gweog o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel, ymlaciol, gydag awyrgylch moethus a chlyd. Gellir ei defnyddio fel ystafell annibynnol neu ar y cyd â’r ystafell drws nesaf fel ystafell deuluol.

Ystafell 2

Mae’r ystafell fawr yma’n cymryd gwely maint brenin yn braf, gyda digon o ofod yn weddill.

Wedi ei lleoli ym mhen pellaf talcen y tŷ, ceir golygfa o ochr yr ardd gyda mynyddoedd yn y cefndir drwy’r coed sy’n wynebu Afon Dwyryd.

Gan fod modd cyd gysylltu’n fewnol gydag ystafell 1, mae hen ddigon o ofod i deulu fod hefo’i gilydd neu dreulio amser ar wahân gan fod modd gadael y drws ar agor dros nos. Yn arbennig o ddefnyddiol i ofalu am blant bach.

Wedi ysbrydoli gan dalcen tywyll y gwely, fe addurnwyd yr ystafell hon mewn palet soffistigedig o ddu a gwyn cynnes i weddu gyda’r dillad gwlâu. Mae’r holl edrychiad yn foethus gyda phalet o ategolion o wahanol decstilau a gwead i greu awyrgylch moethus.

Ystafell 3

Dyma ystafell wely dwbl gyda dwy ffenest sy’n cynnig yr olygfa fwyaf panoramig. Mae gan y ffenest ochr olygfa o’r gerddi a’r mynyddoedd drwy’r coed ac Afon Dwyryd yn rhedeg islaw. Camwch wedyn i’r ffenest ffrynt i edmygu golygfa banoramig heb ei hail, o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 4

Mae delio â thŷ hynafol yn dod a’i heriau ei hun! Dyma ystafell gyda dau wely sengl sy’n llawn cymeriad, gan wneud defnydd o gwpwrdd storio gwreiddiol.

Wyneba’r ffenestri olygfa banoramig heb ei hail o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa.

Nodwch fod un step yn arwain o’r ystafell wely i’r ystafell ymolchi eang, sydd â bath gyda chawod uwchlaw i gadw’ch opsiynau ar agor!

Wedi ysbrydoli gan dalcen tywyll y gwely, fe addurnwyd yr ystafell hon mewn palet soffistigedig o ddu a gwyn cynnes i weddu gyda’r dillad gwlâu. Mae’r holl edrychiad yn foethus gyda phalet o ategolion o wahanol decstilau a gwead i greu awyrgylch moethus.

Ystafell 5

Ystafell fawr gyda dau wely sengl sy’n edrych allan dros gefn y gwesty gyda golygfeydd o’r cwrt a’r ardd naturiol. Mae yma hefyd ystafell ymolchi fawr, felly dyma ystafell ddelfrydol i westai gydag anghenion symudedd a gallent fanteisio’n llawn ar y gofod i symud o gwmpas.

Wedi ysbrydoli gan dalcen tywyll y gwely, fe addurnwyd yr ystafell hon mewn palet soffistigedig o ddu a gwyn cynnes i weddu gyda’r dillad gwlâu. Mae’r holl edrychiad yn foethus gyda phalet o ategolion o wahanol decstilau a gwead i greu awyrgylch moethus.

Ystafell 6

Un ddwy ystafell wely gyda lefel uchel iawn o hygyrchedd. Daw gyda chyfarpar llawn, ynghyd ag offer hoist sefydlog o’r nenfwd i hwyluso symudiadau. Mae yma hefyd ddau wely sengl, gydag un ohonynt yn wely gellir ei addasu.

O fewn yr ystafell wlyb, gosodwyd canllaw gafael a chortyn argyfwng coch a gall yr ystafell gymryd amrediad o offer symudol.

Mae’r ffenestr fawr yn wynebu blaen y gwesty ac yn cynnig golygfa banoramig heb ei hail o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa.

Mae drws mewnol yn cyd-gysylltu gyda mynediad i ystafell 7.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 7

Dyma’r ystafell fwyaf sydd ar gael yn Gwesty. Gellid dadlau dyma’r golygfeydd gorau o’r ddwy ffenestr ffrynt sy’n edrych allan dros y gerddi o flaen y gwesty tuag at olygfa banoramig heb ei hail o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa.

Yn aml iawn, fe’i defnyddir fel ystafell deuluol, gan fod ynddi wely dwbl a hefyd gwely sengl gellir ei addasu. Mae ardal eistedd gyfforddus yng nghanol yr ystafell ble gellid unai edmygu’r golygfeydd neu wylio’r teledu.

O fewn yr ystafell wlyb swmpus, gosodwyd canllaw gafael a chortyn argyfwng coch. Mae yno hoist symudol, toiled comôd a sedd ymolchi sydd ar gael pe dymunir.

Mae drws mewnol yn cyd-gysylltu gyda mynediad i ystafell 6.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 8

Dyma i chi ystafell arall ble rydym wedidathlu rhyfeddod naturiol yr adeilad, ei gilfachau a’i gorneli.

Nodwch fod 4 gris i lawr i’r ardal cysgu sydd â dau wely sengl. Edrycha’r ffenestri dros yr ardd naturiol ar un ochr a phrydferthwch pensaernïol onglau anghyffredin cydblethiad y gwahanol doeau llechi ar yr ochr arall. Cynigir ystafell ymolchi lai ond llawn gyda chawod.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 9

Gan weithio gyda gwahanol lefelau’r adeilad, mae 7 gris i gamu lawr i’r coridor tuag at y rhan olaf sy’n arwain i’r ystafell hon.

Ystafell eang sy’n wynebu cefn y gwesty. Fe’i gosodwyd fel ystafell deuluol gyda gwely dwbl a gwlâu bync a chyda golygfeydd o ardd hollol naturiol ac allanfa dân sy’n atgoffa rhywun o olygfeydd adnabyddus Efrog Newydd.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 10

Gan weithio gyda gwahanol lefelau’r adeilad, mae 7 gris i gamu lawr i’r coridor tuag at y rhan olaf sy’n arwain i’r ystafell hon.

Ystafell wely ddwbl eang gydag ystafell ymolchi en-suite yw hon. Wedi ei leoli ym mhen pellaf talcen y tŷ, ceir golygfa o’r 2 ffenestr ffrynt sy’n edrych allan ar olygfeydd panoramig heb eu hail o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa. O’r ffenestr cefn, sy’n rhan o’r drws tân, edrycha’r olygfa dros ardd naturiol o fywyd gwyllt a’r allanfa dân geometrig.

Wedi ysbrydoli gan dalcen tywyll y gwely, fe addurnwyd yr ystafell hon mewn palet soffistigedig o ddu a gwyn cynnes i weddu gyda’r dillad gwlâu. Mae’r holl edrychiad yn foethus gyda phalet o ategolion o wahanol decstilau a gwead i greu awyrgylch moethus.

Ail llawr

Ystafell 11

Ceir mynediad drwy landin fawr oddi ar res o risiau i’r ystafell ddwbl fawr gyda 2 ffenestr blaen ar yr ail lawr. Gellid dadlau mai dyma’r golygfeydd panoramig gorau o’n holl ystafelloedd gwely - golygfeydd heb eu hail o gadwyn mynyddoedd uchaf Cymru gan gynnwys Yr Wyddfa.

Cynigir ystafell ymolchi eang newydd gyda chawod o faint cyfforddus iawn.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 12

Ceir mynediad drwy landin fawr oddi ar y grisiau.

Ystafell gyda 2 wely sengl sydd i’r ystafell hon, sy’n edrych allan ar ochr y Gwesty i’r gerddi, dreif gyda dyffryn yn y pellter a chefndir y mynyddoedd ar y gorwel.

O fewn yr ystafell ymolchi en-suite hon, cynigiwn fath gyda chawod uwchben gan gynnig y gorau o’r ddau fyd!

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Ystafell 13

Ceir mynediad drwy landin byr oddi ar y grisiau a chydag un step lawr sy’n ystyried aml lefel yr hen adeilad hwn, mae’r ystafell sengl gyfforddus hon yn cynnig silffoedd bas wedi eu hadeiladu mewn i gypyrddau ac yn edrych dros olygfa o’r ardd gefn o uchder.

Er nad yw’n ystafell ymolchi en-suite llawn, mae’r ystafell ymolchi breifat ar wahân gyda bath a chawod uwchben i gynnig opsiynau ymolchi.

Wedi’i haddurno’n foethus gan ddefnyddio palet o wyrdd naturiol tawel a thoniau pren golau gyda haenau o wahanol ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â natur, mae hon yn ystafell dawel ble gellir ymlacio mewn awyrgylch moethus a chlyd.

Beth ddywed ein gwesteion

4.6
allan o 5