Gwasanaethau A Chyfleusterau

Popeth sydd angen am arhosiad ymlaciol

Yng Ngwesty Seren, rydym yn darparu ystod o gyfleusterau i sicrhau y bydd eich arhosiad mor gyfforddus a phleserus â phosib.

Cyfleusterau

Yng Ngwesty Seren, cynigiwn ystod o gyfleusterau i sicrhau bod eich arhosiad mor gyfforddus a phleserus â phosib. Ceir defnydd Wi-Fi am ddim, parcio hygyrch gyda gofodau penodol i'r anabl. Mae storfa beics diogel yn adnodd ychwanegol i feicwyr. Ymlaciwch yn ein bar; ewch am grwydr i weld prydferthwch Gerddi ‘Stiniog Seren, neu manteisiwch ar ein hystafell gyfarfod a’n gofodau cymdeithasol. I’ch diddanu, mae gennym fwrdd pŵl, tra bod ein siop ar y safle’n lle delfrydol i godi cynnyrch ac anrhegion unigryw a wneir yn lleol. Boed yma ar fusnes neu bleser, mae ein cyfleusterau wedi eu cynllunio i sicrhau bod eich arhosiad yn un ymlaciol a bythgofiadwy.

Storfa Beics
Wi-Fi am ddim
Ystafell Synhwyraidd
Hygyrch
Lluniaeth
Gerddi 'Stiniog
Ystafell Gyfarfod
Bar
Hotel Food and Drink

Bwyd a Diod

Fel rhan o’n hymgyrch cynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn canfod cynnyrch o’r ansawdd gorau o ffynonellau mor lleol â phosib.

Bike Store Gwesty Seren

Storfa Beics

Lleolir Blaenau Ffestiniog yng nghanol Gwynedd, wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, traciau oddi ar y ffordd, gan gynnwys llwybrau coedwigoedd a golygfeydd godidog.

Sensory Room

Ystafell Synhwyraidd

Ceir gofod tawel at bob oedran yn ein hystafell synhwyraidd unigryw sydd ar flaen y gad.

Meeting Room in Eryri

Ystafell Gyfarfod

Mae gennym ystafell gyfarfod bwrpasol sy'n eistedd rhwng 10-12. Gellir ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd, cynadleddau bach neu sesiynau hyfforddiant.

Gerddi ‘Stiniog Gardens

Gerddi ‘Stiniog

Beth am grwydro i fyny at Erddi ‘Stiniog ar nosweithiau braf – mae’n werth gwneud y trip i fyny allt serth a bachu sedd dan y pergola i fwynhau’r golygfeydd ar safiad uwch.