Bwyd a Diod
Cynnyrch o’r ardal leol
Cliciwch ar y fwydlen i lawr lwytho
Bisgedi a chacennau cartref
Cinio ar wib a phicnics
Beth am flasu ein dewis o ginio ar wib? Gallwch archebu a thrafod unrhyw anghenion dietegol ymlaen llaw, sy’n rhoi’r rhyddid i chi fwynhau eich diwrnod allan – gwasanaeth poblogaidd iawn i gerddwyr, mynyddwyr a beicwyr o blith ein gwesteion.
Yn lleol
Cynnyrch o’r Ardal Leol
Fel rhan o’n hymgyrch cynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn canfod cynnyrch o’r ansawdd gorau o ffynonellau mor lleol â phosib.
Rydym wedi datblygu perthnasau gyda nifer o gyflenwyr lleol arbennig sydd wedi ymrwymo i werthu cynnyrch safonol, ac rydym wedi gweithio’n galed i adnabod cymaint o gyflenwyr lleol ag sy’n bosib er mwyn lleihau ein ‘milltiroedd bwyd’. Mae rhai o gynhwysion craidd ein cynnyrch, gan gynnwys cynnyrch ein brecwast Chwarelwr poblgaidd wedi eu mapio islaw:-
Adborth Cwsmeriaid
Gwasanaeth Arlwyo Allanol
Darperir ein gwasanaeth arlwyo allanol law yn llaw gyda staff y gwesty a’n hunigolion profiadol sydd wrth eu boddau’n cynorthwyo i ddarparu a danfon archebion.
Gallwn hefyd hurio llestri a chyllyll/ffyrc ayb fel rhan o’r gwasanaeth yma pe dymunir.
Ceir dewis o blith sawl bwydlen barod, neu gallwn drafod pecynnau unigryw, sy’n cynnwys anghenion dietegol arbennig.
Cofiwch gysylltu â Rheolwr y Gwesty i drafod eich anghenion mewn rhagor o fanylder.
Darperir y gwasanaeth hwn ar gyfer ddigwyddiadau corfforaethol ac i bartïon llai neu ddathliadau. Beth am dreulio’ch amser yn diddanu a chymdeithasu heb boen meddwl ar achlysuron arbennig a dathliadau bythgofiadwy.
Te Cynhebrwng
Amgylchynir y Gwesty gan dir preifat naturiol, lloches heddychlon i gynnal te cynhebrwng yn dilyn colled a chyfle i gofio am fywyd un annwyl gyda'ch teulu a ffrindiau.
Yn yr haf, mae’r gofod allan yn lleoliad poblogaidd i ymgynnull. Fodd bynnag gellir gwneud defnydd llawn agored neu ddefnydd preifat o ystafelloedd cyhoeddus y Gwesty yn ddibynnol ar faint y cynulliad.
Gellir trafod anghenion bwyd arbenigol neu ddewis o’n bwydlen wedi cynllunio’n arbennig i’r digwyddiad.