Ystafell Synhwyraidd
Profiad ystafell synhwyraidd
Beth am fanteisio ar y cyfle i brofi ein gwasanaeth synhwyraidd newydd? Mae’r ystafell ar gael i’w llogi ar gyfraddau cystadleuol iawn ac fel arfer ar agor:-
- rhwng 09:00-20:00, 7 diwrnod yr wythnos yn ystod cyfnodau prysur.
- yn ystod tymor y Gaeaf, gall oriau agor amrywio; felly gwell gwirio argaeledd ymlaen llaw.
Fodd bynnag, ein bwriad cyffredinol yw sicrhau bod y cyfleuster yma ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â gwesteion y Gwesty ac unigolion cymaint â phosib.
Ysbrydolwyd yr ystafell Synhwyraidd hon gan un o’n hunigolion a deimlai ei bod yn bwysig sicrhau bod gan gymaint â phosib o bobl fynediad i’r cyfleusterau. Cydweithiodd Seren yn agos gydag Adra - Cyfundrefn Dai Cymunedol - i drawsnewid storfa i ardal synhwyraidd heddychlon yn cynnig profiad holistaidd. Dros gyfnod o sawl mis, addaswyd yr ystafell, gydag Adra’n darparu llafur a chydweithio gyda’u contractwyr/cyflenwyr i roi’r deunyddiau craidd i drawsffurfio’r gofod. Yn ystod y cyfnod hwn, cymerodd yr unigolyn a ysbrydolodd y syniad gwreiddiol, rôl ymarferol i ymchwilio, dylunio, cynllunio a dewis yr offer arbenigol terfynol gan fynychu arddangosiadau gyda sawl cwmni. Trefnodd Seren diwrnod agored ar y cyd gyda’n hunigolion i ddathlu’r ystafell Synhwyraidd newydd sydd wedi ei gynnig i’r gymuned ehangach yn rhad ac am ddim am y flwyddyn gyntaf i gydnabod yr holl gefnogaeth a dderbyniwyd gan Adra ynghyd â’r gefnogaeth ariannol a gafwyd gan y Loteri Genedlaethol ac Engie i gyflawni’n nod.
Tynnwyd y clip fideo byr ar y diwrnod, sy’n arddangos ein cyfleuster arbennig.
Gwnaed penderfyniadau am yr offer gan feddwl am amrywiaeth eang o oedrannau gan gynnwys eitemau megis:-
- Troli Synhwyraidd ‘Voyager’
- Taflunydd ‘OMI’ Solar ‘LED’
- Olwyn troi fagnetig sy’n creu effeithiau symudol
- ‘Fibre Optic Slide Glow’
- System Sain ‘Bluetooth’
- Llyfr Synhwyraidd
- Gwely Dŵr
Unedau symudol yw’r taflunydd ‘OMI’ a’r troli ‘Voyager’. Mae i’n hystafelloedd hygyrch digonedd o le i’n galluogi i’w defnyddio i’w llawn botensial yn gyfforddus ym mhreifatrwydd eich gofod eich hun. Plîs trafodwch eich dymuniadau gyda Rheolwr y Gwesty.