Cwestiynau
Eich cwestiynau, ein hatebion
Rydym wedi tynnu at ei gilydd nifer o gwestiynau a ofynnir amlaf er hwyluso cynllunio eich ymweliad. Os na allwch ganfod yr ateb, mae ein tîm cyfeillgar yn hapus iawn i’ch cynorthwyo.
A oes gennych bwyntiau gwefru car trydan?
Ddim ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio ar hyn. Fodd bynnag, mae nifer o bwyntiau gwefru wedi eu lleoli ym Mlaenau Ffestiniog
A oes gennych gyfleuster storio beiciau diogel?
Oes - mae’r ardal ddiogel yn cynnwys raciau sy’n dal hyd at 12 beic lôn neu 10 beic mynydd. Mae yno hefyd ystafell sychu o fewn yr ardal hon.
A oes parcio preifat?
Oes - mae gennym 2 brif fynedfa i’n heiddo sy’n dibynnu o ba gyfeiriad yr ydych yn teithio, gyda chyfanswm o 26 man parcio am ddim ynghyd â dreif tarmac yn y ddwy ardal. Mae gennym leoliad parcio ar yr ochr (sydd ar lethr eithaf serth i gyrraedd y gwesty) a hefyd ar lefel gwastad o flaen y gwesty, sy’n cynnwys 3 bae penodol i barcio anabl.
A oes gan y gwesty lifft?
Oes - mae lifft penodol at ystafelloedd gwely’r llawr gyntaf, ond hefyd lifft cadair batri fel dull amgen. Mae hefyd ramp fel llwybr amgen i gael mynediad i’r lolfa sy’n sicrhau bod yr holl ofodau cyhoeddus yn hygyrch i bawb. Mae gennym hefyd lifft allanol o’r maes parcio i brif fynedfa’r gwesty fel dull amgen i osgoi’r grisiau sydd hefyd yn opsiwn amgen.
A ydych yn derbyn archebion ar gyfer grwpiau?
Ydyn - rydym yn cymryd archebion bach neu fwy, hyd at ddefnydd egscliwsif o’r gwesty. Fe argymhellir archebu’n fuan os hoffech ddefnyddio’r gwesty cyfan at ddefnydd preifat, felly codwch y ffôn i drafod eich anghenion gyda staff y Gwesty.
Pa mor bell ydych chi o fynydd Yr Wyddfa?
Mae Gwesty Seren 34 milltir o Llanberis ar lôn yr A487.
Ydi’r gwesty yn gweini bwyd min nos?
Yn anffodus, nid ydym yn gallu gweini bwyd min nos ar hyn o bryd. Ond gallwn eich cynghori am sawl sefydliad agos sy’n cynnig amrywiaeth o fwydydd gwahanol i siwtio pob poced, gan gynnwys bwyta i mewn neu gludo allan. Gallwn drefnu trafnidiaeth pe bai angen.
A yw’r gwesty’n derbyn plant?
Ydyn, ac yn wir, mae gennym ystafell teulu sy’n cysgu hyd at 4 o bobl (gwlâu bync) yn ogystal ag ystafelloedd sy’n cysylltu’n fewnol i roi mymryn o breifatrwydd. Bydd angen goruchwyliaeth oedolyn ar blant.
A oes gennych wely/cot ychwanegol?
Mae gwlâu/cot ychwanegol ar gael am £15 y person y noson. Ceir defnydd o’r cot teithio am ddim.
A yw’r duvets a’r clustogau yn ddi-blu?
Ydyn - mae ein holl ddillad gwely yn ddi-blu i ostwng y risg o alergeddau.
A allwch arlwyo i alergeddau Celiac?
Gallwn - rhowch wybod ar y cyfle cyntaf, yn ddelfrydol wrth archebu a gwnawn ein gorau i sicrhau'r dewisiadau ehangaf posib i gyfarfod eich anghenion.
Beth yw eich cyfyngiadau archebu?
Gweler ein telerau ac amodau archebu..
A ydych yn gweini te prynhawn a/neu de hufen?
Ydyn - mae te prynhawn ar gael drwy drefniant o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Gallwch fwynhau te, cacennau, sgons, jam a hufen, a brechdanau, gyda’ch dewis o ddiodydd yn cael eu gweini yn ein hardaloedd bwyta neu ar y patio o flaen y gwesty. Fel arall, beth am gynnwys gwydriad o Prosecco fel rhywbeth gwahanol. Gweler ein bwydlen am wahanol ddewisiadau.
A ydych yn gweini bwyd drwy gydol y dydd?
Nid ydym yn gweini unrhyw fwyd ac eithrio brecwast ar hyn o bryd, er gallem gynnig cinio oer ar glyd pe hoffech archebu’r rhain. Trafodwch unrhyw anghenion dietegol arbennig gyda staff fel y gallem gydweithio gyda’ch anghenion.
A ydych yn cynnig gwasanaeth cludo bwyd i ystafelloedd gwely?
Nid yw hyn yn wasanaeth y mae Gwesty Seren yn ei ddarparu ar hyn o bryd.
Beth yw amseroedd cyrraedd a gadael?
Gallwch gofrestru o 15:00 ymlaen. Os ydych yn meddwl y byddwch yn cyrraedd yn gynharach, rhowch wybod i ni o flaen llaw a gwnawn ein gorau i sicrhau bod eich ystafell yn barod erbyn i chi gyrraedd, er, ni allwn warantu hyn. Gallwn ddarparu ar gyfer cyrraedd yn hwyr (22:00 ymlaen yn ystod y prif dymor ond yn gynharach yn ystod misoedd y gaeaf), drwy drefniant ymlaen llaw. Gofynnir yn garedig i westeion adael erbyn 10:00 ar y diwrnod olaf. Fodd bynnag, gellir gwneud trefniant i gadw bagiau pe baech yn dymuno gwneud defnydd llawn o’r diwrnod. Mae cawod yn ein cyfleusterau toiledau hygyrch y gall gwesteion ei ddefnyddio i ymolchi hyd yn oed pe baent wedi gadael eu hystafell.
A oes gennych ystafelloedd hygyrch i gadair olwyn?
Oes – mae holl ystafelloedd cyhoeddus y llawr gwaelod yn hygyrch. Mae sawl un o’n hystafelloedd gwely wedi eu dylunio yn benodol i letya hygyrchedd hyd at anghenion llawn gan gynnwys ystafelloedd gwlyb.
Pa gyfleusterau sydd gan yr ystafelloedd?
Mae gan bob ystafell ofod ymolchi preifat a chawodydd pŵer, cynnyrch ymolchi am ddim, tyweli, clustogau ychwanegol sydd ar gael ar gais, pwyntiau siafio, peiriant sychu gwallt (haearn sythu gwallt ar gael ar gais), teledu digidol, ‘smart’ gyda sgrin fflat 32-modfedd, Wi-Fi am ddim, cyfleusterau te a choffi gyda bisgedi cartref wedi eu coginio’n ddyddiol ar ein safle.
Ydych chi'n sefydliad sy'n croesawu ysmygwyr?
Gwesty dim ysmygu ydym ni, yn unol â Chyfreithiau Cymru, ond mae gennym ardal ysmygu ddynodedig.